1Clodforaf di â’m holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti.
2Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.
3Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid.
4Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O ARGLWYDD, pan glywant eiriau dy enau.
5Canant hefyd am ffyrdd yr ARGLWYDD: canys mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.
6Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell.
7Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai.
8Yr ARGLWYDD a gyflawna â mi: dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
