Diarhebion 27 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Nac ymffrostia o’r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.

2Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan.

3Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau.

4Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen?

5Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig.

6Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus.

7Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i’r newynog pob peth chwerw sydd felys.

8Gŵr yn ymdaith o’i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o’i nyth.

9Olew ac arogl-darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon.

10Nac ymado â’th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell.

11Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo.

12Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir.

13Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr.

14Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.

15Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.

16Y mae yr hwn a’i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys.

17Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill.

18Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o’i ffrwyth ef: a’r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.

19Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn.

20Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn.

21Fel y tawddlestr i’r arian, a’r ffwrnais i’r aur: felly y mae gŵr i’w glod.

22Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef.

23Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd.

24Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth?

25Y gwair a flaendardda, a’r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir.

26Yr ŵyn a’th ddillada, ac o’r geifr y cei werth tir.

27Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i’th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i’th lancesau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help