II Esdras 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 8

1Ac efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Y Goruchaf a wnaeth y byd hwn i lawer; ond y byd a ddaw i ychydig.

2Esdras, dangosaf i ti gyffelybrwydd, fel pan ofynnech i’r ddaear, hithau a’th etyb ei bod hi yn rhoddi llawer o bridd, o’r hwn y gwneir llestri pridd, ond ychydig o’r hwn y daw’r aur allan: felly y mae am waith y byd hwn:

3Llawer a wnaethpwyd, ond ychydig a fydd cadwedig.

4Yna yr atebais, gan ddywedyd, O fy enaid, llwnc di synnwyr a thraflynca ddeall:

5Canys cytunaist i wrando, ac ewyllysgar ydwyt i broffwydo: canys nid oes i ti ysbaid hwy nag yn unig i fyw.

6O Arglwydd, oni roddi di gennad i’th was i erfyn arnat, ar i ti roddi had i’n calon, a llafurwaith i’n deall, fel y dêl ffrwyth ohono; pa fodd y gall pob dyn llygredig fyw, a’r y sydd yn dwyn lle dyn?

7Canys ti wyt unig, a ninnau oll ydym waith dy ddwylo di, fel y dywedaist.

8Canys pan lunier y corff yng nghroth y fam, a phan roddech aelodau iddo, dy greadur a gedwir mewn tân a dwfr, a naw mis y dioddef dy waith dy greadur a luniwyd ynddi.

9Ond y peth sydd yn cadw, a’r peth a gedwir, a ddihangant ill dau: a phan ddelo’r amser, y groth a gadwed a ddyry’r pethau a dyfodd ynddi.

10Canys ti a orchmynnaist allan o aelodau’r corff, sef o’r bronnau, roddi llaeth, yr hwn yw ffrwyth y bronnau,

11Fel y gallo’r peth a luniwyd gael ei fagu dros amser, hyd oni threfnech ef i’th drugaredd.

12Megaist ef trwy dy gyfiawnder, meithrinaist ef yn dy gyfraith, a cheryddaist ef â’th farn:

13A thi a’i marwolaethi ef fel dy greadur, ac a’i bywhei ef fel dy waith.

14Os distrywi gan hynny y peth a luniwyd trwy gymaint o boen, wrth dy orchymyn di, hawdd oedd gadw y peth a wnaethpwyd.

15Gan hynny, Arglwydd, mi a lefaraf, (am bob dyn yn gyffredinol gorau y gwyddost ti,) am dy bobl di, dros y rhai yr ydwyf yn drist;

16Ac am dy etifeddiaeth, dros y rhai yr ydwyf yn galaru; ac am Israel, am yr hwn yr ydwyf yn drist: ac am Jacob, er mwyn yr hwn y’m trallodir.

17Am hynny y dechreuaf weddïo ger dy fron di drosof fy hun a throstynt hwythau: canys mi a welaf ein beiau ni, y rhai sy’n trigo yn y wlad.

18Ond mi a glywais gyflymdra’r barnwr sydd yn dyfod.

19Am hynny gwrando fy lleferydd, a deall fy ngeiriau, a pharablaf ger dy fron di. Dyma ddechrau geiriau Esdras, cyn ei gymryd ef i fyny. A mi a ddywedais,

20O arglwydd, tydi’r hwn ydwyt yn preswylio mewn tragwyddoldeb, yr hwn wyt o’r uchelder yn gweled pethau yn y nefoedd ac yn yr awyr;

21Eisteddle’r hwn nis gellir ei phrisio; a’i ogoniant nis gellir ei gynnwys; o flaen yr hwn y mae’r lluoedd angylion yn sefyll dan grynu,

22Gwasanaeth y rhai sydd mewn gwyn ta thân; yr hwn y mae ei air yn wir, a’i ymadroddion yn ddianwadal; yr hwn y mae ei orchymyn yn gadarn, a’i ordinhad yn ofnadwy;

23Yr hwn y mae ei olwg yn sychu’r dyfnder, a’i ddicllonedd yn gwneuthur i’r mynyddoedd doddi; i’r hyn y mae y gwirionedd yn dwyn tystiolaeth;

24O gwrando weddi dy was, ac ystyria â’th glustiau ddeisyfiad dy greadur.

25Canys tra fyddwyf byw y llefaraf, a thra medrwyf ddeall yr atebaf.

26Nac edrych ar bechodau dy bobl; ond ar y rhai sy’n dy wasanaethu mewn gwirionedd:

27Na phrisia ar ddrwg amcanion y cenhedloedd; ond ar ddymuniad y rhai sy’n cadw dy dystiolaethau mewn cystuddiau:

28Na feddwl am y rhai a rodiodd yn ffuantus ger dy fron di; ond cofia’r rhai yn ôl dy ewyllys a adnabuant dy ofn:

29Nac ewyllysia ddifetha’r rhai a ymddygasant yn anifeilaidd; ond edrych ar y rhai a ddysgasant dy gyfraith di yn berffaith:

30Na chymer ddigofaint wrth y rhai a gyfrifir yn waeth nag anifeiliaid; ond câr di y rhai a ymddiriedant yn wastadol yn dy gyfiawnder a’th ogoniant di.

31Canys yr ydym ni a’n tadau yn nychu o gyfryw glefydau; eithr o’n hachos ni bechaduriaid y gelwir di yn drugarog.

32Canys od oes ewyllys gennyt i drugarhau wrthym, fe a’th elwir yn drugarog, sef wrthym ni, y rhai sy heb weithredoedd cyfiawnder.

33Canys y cyfiawn, y rhai sy ganddynt lawer o weithredoedd da ynghadw gyda thi, o’u gweithredoedd eu hun a dderbyniant wobr.

34Ond pa beth yw dyn, i ti i ddigio wrtho? neu pa beth yw cenhedlaeth lygredig, i ti fod mor chwerw wrthi?

35Canys yn wir nid oes un ymhlith y rhai a aned, heb wneuthur drygioni; ac nid oes un ymhlith y rhai cyfiawn, heb wneuthur ar fai.

36Canys yn hyn, O Arglwydd, y dangosir dy gyfiawnder a’th ddaioni di, os byddi drugarog wrth y rhai nid oes ganddynt olud o weithredoedd da.

37Yna y’m hatebodd, gan ddywedyd, Peth a ddywedaist yn dda, a hynny a gyflawnir yn ôl dy eiriau.

38Canys yn wir nid ystyriaf weithredoedd y rhai a bechasant cyn marwolaeth, cyn barn, cyn distryw:

39Ond mi a lawenychaf am weithredoedd a meddyliau’r cyfiawn, ac a gofiaf eu pererindod hwy, a’r iachawdwriaeth a’r gwobr a gânt.

40Fel y dywedais yn awr, felly y digwydd.

41Canys fel y mae’r llafurwr yn hau llawer o had ar y ddaear, ac yn plannu llawer o brennau, ac eto nid yw y peth a heuwyd yn dda yn ei amser yn dyfod i fyny, na’r cwbl a’r a blannwyd yn gwreiddio; felly y mae am y rhai a heuwyd yn y byd, ni byddant oll gadwedig.

42Yna yr atebais, ac y dywedais, Os cefais ras, gad i mi lefaru.

43Fel y mae had y llafurwr yn colli, oni ddaw efe i fyny, ac oni dderbyn y glaw mewn amser cyfaddas; neu os daw gormod glaw arno, a’i lygru ef:

44Felly hefyd y derfydd am ddyn, yr hwn a wnaeth dy ddwylo di, ac a elwir dy ddelw di, am dy fod yn debyg iddo, er mwyn yr hwn y gwnaethost bob peth; a chyffelybaist ef i had y llafurwr.

45Na fydd ddicllon wrthym, ond arbed dy bobl, a chymer drugaredd ar dy etifeddiaeth dy hun: canys trugarog ydwyt wrth dy greadur.

46Yna efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Y pethau presennol sy i’r rhai presennol, a phethau i ddyfod i’r rhai a ddaw.

47Canys y mae llawer i ti yn ôl eto, fel y gallech garu fy nghreadur yn fwy nag yr wyf fi: ond mi a neseais lawer gwaith atat ti, ac ato yntau, ond ni neseais erioed at yr anghyfiawn.

48Ac yn hyn hefyd yr ydwyt yn rhyfedd gerbron y Goruchaf,

49Am i ti dy ddarostwng dy hun, fel yr oedd weddus i ti, ac ni’th dybiaist dy hun yn deilwng i gael gogoniant mawr ymhlith y rhai cyfiawn.

50Canys llawer o drueni mawr sydd i’r rhai a erys yn y byd yn yr amser diwethaf, am iddynt rodio mewn balchder mawr.

51Ond dysg di drosot dy hun, a chwilia am y gogoniant i’r rhai sy debyg i ti.

52Canys i chwi yr agorwyd Paradwys, y plannwyd pren y bywyd, y darparwyd yr amser a ddaw, y paratowyd helaethrwydd, yr adeiladwyd dinas, ac y caniatawyd gorffwystra, ie, daioni a doethineb perffaith.

53Gwreiddyn drygioni a seliwyd i fyny rhagoch chwi, gwendid a gwyfyn a guddiwyd rhagoch, a llygredigaeth a ffodd i uffern i’w hanghofio.

54Galar a aeth ymaith, a thrysor tragwyddoldeb a ddangosir yn y diwedd.

55Ac am hynny nac ymofyn mwy am rifedi y rhai colledig.

56Canys pan gawsant ryddid, hwy a ddibrisiasant y Goruchaf, diystyrasant ei gyfraith, a gwrthodasant ei ffyrdd ef.

57Heblaw hynny, hwy a fathrasant ei rai cyfiawn ef,

58Ac a ddywedasant yn eu calonnau, Nid oes un Duw; a hynny er eu bod yn gwybod y bydd rhaid iddynt farw.

59Canys fel y darparwyd i chwi y pethau a ddywedais, felly y darparwyd iddynt hwythau syched a llafur: canys nid oedd ei ewyllys ef ddarfod am ddynion.

60Onid y rhai a wnaethpwyd a halogasant enw y neb a’u gwnaeth, ac a fuant anniolchgar i’r hwn a ddarparodd iddynt fywyd?

61Ac am hynny y mae fy marn i gerllaw.

62Ni ddangosais i y pethau hyn i bawb, ond i ti, ac i ychydig cyffelyb i ti. Yna yr atebais, gan ddywedyd,

63Wele, Arglwydd, yn awr y dangosaist liaws y rhyfeddodau, y rhai a ddechreui eu gwneuthur yn yr amserau diwethaf: ond pa bryd, ni ddangosaist i mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help