Y Salmau 144 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 144Salm Dafydd.

1Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a’m bysedd i ryfela.

2Fy nhrugaredd, a’m hamddiffynfa; fy nhŵr, a’m gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf.

3 ARGLWYDD, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?

4Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.

5 ARGLWYDD, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â’r mynyddoedd, a mygant.

6Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt.

7Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;

8Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.

9Canaf i ti, O DDUW, ganiad newydd: ar y nabl a’r dectant y canaf i ti.

10Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol.

11Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster:

12Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas:

13Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd:

14A’n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd.

15Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help