1Wele, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion a lywodraethant mewn barn.
2A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymestl; megis afonydd dyfroedd mewn sychdir, megis cysgod craig fawr mewn tir sychedig.
3Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant.
4Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth, a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur.
5Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw.
6Canys coegwr a draetha goegni, a’i galon a wna anwiredd, i ragrithio, ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr ARGLWYDD, i ddiddymu enaid y newynog; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu.
7Arfau y cybydd sydd ddrygionus: efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau, pan draetho yr anghenus yr uniawn.
8Ond yr hael a ddychymyg haelioni; ac ar haelioni y saif efe.
9Cyfodwch, wragedd di-waith; clywch fy llais: gwrandewch fy ymadrodd, ferched diofal.
10Dyddiau gyda blwyddyn y trallodir chwi, wragedd difraw: canys darfu y cynhaeaf gwin, ni ddaw cynnull.
11Ofnwch, rai difraw; dychrynwch, rai diofal: ymddiosgwch, ac ymnoethwch, a gwregyswch sachliain am eich llwynau.
12Galarant am y tethau, am y meysydd hyfryd, am y winwydden ffrwythlon.
13Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobl, ie, ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd.
14Canys y palasau a wrthodir, lluosowgrwydd y ddinas a adewir, yr amddiffynfeydd a’r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, yn hyfrydwch asynnod gwylltion, yn borfa diadellau;
15Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir.
16Yna y trig barn yn yr anialwch, a chyfiawnder a erys yn y doldir.
17A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch a diogelwch, hyd byth.
18A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd.
19Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel.
20Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch draed yr ych a’r asyn yno.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
