Judith 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 8

1Ac yn y dyddiau hynny Judith a glybu hyn. A hi ydoedd ferch Merari, fab Ocs, fab Joseff, fab Osiel, fab Elcia, fab Ananeias, fab Gedeon, fab Raffaim, fab Acithio, fab Eliu, fab Eliab, fab Nathanael, fab Samael, fab Salasadai, fab Israel.

2A Manasses oedd ei gŵr hi, o’r un llwyth a gwaedoliaeth â hi: ac efe a fuasai farw yn nyddiau’r cynhaeaf haidd.

3Canys yr oedd efe yn ddyfal yn gwylied y rhai oedd yn rhwymo ysgubau yn y maes, a’r gwres a ddaeth ar ei ben ef, fel y syrthiodd efe ar ei wely; ac efe a fu farw yn ninas Bethulia; a hwy a’i claddasant ef gyda’i dadau, yn y maes sy rhwng Dothaim a Balamon.

4A Judith oedd yn ei thŷ ei hun yn weddw, dair blynedd a phedwar mis.

5A hi a wnaeth iddi babell yn y fan uchaf o’i thŷ, ac a osododd sachlen am ei llwynau, a dillad ei gweddwdod oedd amdani.

6A hi a ymprydiodd holl ddyddiau ei gweddwdod; oddieithr y dydd cyn y Sabothau, a’r Sabothau, a’r dydd cyn y newyddloerau, a’r newyddloerau, a’r gwyliau, ac uchel ddyddiau tŷ Israel.

7Ac yr oedd hi yn deg ei gwedd ac yn lân iawn yr olwg: a Manasses ei gŵr hi a adawsai iddi aur, ac arian, a gweision, a morynion, ac anifeiliaid, a meysydd, lle yr oedd hi yn aros.

8Ac nid oedd neb a’r a allai ddwyn drygair yn ei herbyn hi: canys yr ydoedd hi yn ofni Duw yn fawr.

9Pan glybu hi eiriau drygionus y bobl yn erbyn y tywysog, am eu bod hwy yn llesgáu gan brinder dyfroedd: (canys Judith a glywsai’r holl eiriau a lefarasai Oseias wrthynt hwy, fel y tyngasai efe wrthynt y rhoddid y ddinas ymhen y pum niwrnod i’r Asyriaid:)

10Yna hi a anfonodd ei llawforwyn, yr hon oedd yn llywodraethu ei holl olud hi, i alw am Oseias, a Chabris, a Charmis, henuriaid ei dinas.

11A hwy a ddaethant ati hi: a hithau a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr arnaf fi, tywysogion y rhai sydd yn preswylio Bethulia: canys nid iawn eich geiriau chwi y rhai a lefarasoch gerbron y bobl heddiw, o ran y llw hwn a osodasoch ac a draethasoch rhwng Duw a ninnau, pan ddywedasoch y rhoddech y ddinas i’n gelynion, oni ddychwelai’r Arglwydd i’n cynorthwyo ni o fewn y dyddiau hyn.

12Ac yn awr pwy ydych chwi, y rhai a demtiasoch Dduw y dydd heddiw, ac a’ch gosodasoch eich hunain yn lle Duw ymysg meibion dynion?

13Ac yn awr yr ydych chwi yn ceisio’r Arglwydd hollalluog; ond ni chewch wybod dim byth;

14Canys ni fedrwch gael allan ddyfnder calon dyn, na deall y pethau y byddo efe yn eu meddwl: pa fodd wrth hynny y chwiliwch chwi allan Dduw, yr hwn a wnaeth yr holl bethau hyn? ac y gwybyddwch ei feddwl ef, ac y medrwch ddeall ei amcanion ef? nid felly, frodyr; na ddicllonwch yr Arglwydd ein Duw ni.

15Canys oni fyn efe ein cynorthwyo ni o fewn pum niwrnod, y mae ganddo ef allu i’n hamddiffyn ni pan fynno, a phob dydd, neu i’n dinistrio ni o flaen ein gelynion.

16Am hynny na rwymwch gynghorion yr Arglwydd ein Duw ni: canys nid fel dyn y mae Duw, fel y galler ei fygwth ef; ac nid fel mab dyn, fel y galler ei farnu ef.

17Gan hynny disgwyliwn iachawdwriaeth oddi wrtho ef, galwn arno ef i’n cynorthwyo ni; ac efe a wrendy ar ein llef, os gwêl efe yn dda.

18Canys ni chyfododd yn ein hoesoedd ni, ac nid oes y dydd heddiw, na llwyth, na theulu, na phobl, na dinas, ohonom ni, a’r sy’n addoli duwiau a wneir â dwylo, megis y bu yn y dyddiau gynt.

19Herwydd paham y rhoddwyd ein tadau ni i’r cleddyf, ac yn anrhaith, fel y syrthiasant trwy gwymp mawr o flaen ein gelynion.

20Ond nid adwaenom ni Dduw arall; am hynny yr ydym ni yn gobeithio na ddirmyga efe mohonom ni, na neb o’n hiliogaeth.

21Canys os delir nyni felly, Jwdea a anghyfanheddir, a’n cysegr ni a anrheithir, ac efe a gais ei halogedigaeth hi o’n genau ni.

22A lladdfa ein brodyr ni, a chaethiwed y wlad, a diffeithwch ein hetifeddiaeth, a ddychwel efe ar ein pennau ni ymysg y cenhedloedd, pa le bynnag y gwasanaethom ni; ac ni a fyddwn yn gasbeth ac yn waradwydd yng ngolwg y rhai a’n meddiannant.

23Canys ni arweinir ein caethiwed ni mewn hawddgarwch; eithr trwy warth y gesyd yr Arglwydd ein Duw ni hi.

24Yn awr gan hynny, O frodyr, dangoswn esampl i’n brodyr; oherwydd arnom ni y mae eu calon hwynt, a’r cysegr, a’r tŷ, a’r allor sy â’i phwys arnom ni.

25Heblaw hyn oll, diolchwn i’r Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn ein profi ni, megis y profodd efe ein tadau ni.

26Cofiwch yr hyn a wnaeth efe ag Abraham, a pha fodd y profodd efe Isaac, a’r hyn a wnaed i Jacob ym Mesopotamia Syria, pan ydoedd efe yn bugeilio defaid Laban brawd ei fam.

27Canys ni phrofodd efe ni yn y tân fel hwynt-hwy, er prawf ar eu calonnau hwynt, ac ni ddialodd arnom ni; eithr yr Arglwydd sydd yn ceryddu y rhai sydd yn nesáu ato ef, er mwyn eu rhybuddio.

28Yna Oseias a ddywedodd wrthi hi, A chalon dda y lleferaist yr hyn oll a ddywedaist: ac nid oes a ddichon wrthwynebu dy eiriau di.

29Oherwydd nid heddiw yr eglurwyd dy ddoethineb di; eithr er dechreuad dy ddyddiau di y gwybu’r holl bobl dy ddoethineb; canys da yw amcan dy galon di.

30Ond y bobl oedd yn fawr iawn eu syched, ac a’n cymellasant ni i wneuthur iddynt fel y llefarasom, ac i ddwyn arnom lw, yr hwn ni throseddwn.

31Am hynny gweddïa di yn awr trosom ni, o achos mai gwraig grefyddol ydwyt ti; a’r Arglwydd a enfyn law i lenwi ein ffynonellau ni, fel na lesgaom mwyach.

32Yna y dywedodd Judith wrthynt hwy, Gwrandewch arnaf fi, a mi a wnaf beth y byddo sôn amdano trwy’r holl oesoedd gan feibion ein cenedl ni.

33Sefwch chwi yn y porth y nos hon, a myfi a af allan, mi a’m llawforwyn: ac o fewn y dyddiau, yn y rhai y dywedasoch y rhoddech chwi y ddinas i’n gelynion, yr Arglwydd a ymwêl ag Israel trwy fy llaw i.

34Ond na cheisiwch chwi mo’r ymofyn am fy ngweithred: canys ni fynegaf fi i chwi, nes gorffen yr hyn yr ydwyf yn ei wneuthur.

35Yna Oseias a’r tywysogion a ddywedasant wrthi, Dos mewn heddwch: a’r Arglwydd Dduw a fyddo o’th flaen di, er dialedd ar ein gelynion.

36Felly hwy a ddychwelasant o’r babell, ac a aethant ymaith at eu byddinoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help