Y Salmau 71 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 71

1Ynot ti, O ARGLWYDD, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth.

2Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi.

3Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa.

4Gwared fi, O fy NUW, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws.

5Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd DDUW; fy ymddiried o’m hieuenctid.

6Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.

7Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.

8Llanwer fy ngenau â’th foliant, ac â’th ogoniant beunydd.

9Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth.

10Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant,

11Gan ddywedyd, DUW a’i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd.

12O DDUW, na fydd bell oddi wrthyf: fy NUW, brysia i’m cymorth.

13Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.

14Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a’th foliannaf di fwyfwy.

15Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt.

16Yng nghadernid yr Arglwydd DDUW y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi.

17O’m hieuenctid y’m dysgaist, O DDUW: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.

18Na wrthod fi chwaith, O DDUW, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th gadernid i bob un a ddelo.

19Dy gyfiawnder hefyd, O DDUW, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O DDUW, sydd debyg i ti?

20Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a’m bywhei drachefn, ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear.

21Amlhei fy mawredd, ac a’m cysuri oddi amgylch.

22Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy NUW: canaf i ti â’r delyn, O Sanct Israel.

23Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a’m henaid, yr hwn a waredaist.

24Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help