1Yna Josua a alwodd y Reubeniaid a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse,
2Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a gadwasoch yr hyn oll a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchmynnais i chwi.
3Ni adawsoch eich brodyr, er ys llawer o ddyddiau bellach, hyd y dydd hwn; ond cadwasoch reol gorchymyn yr ARGLWYDD eich DUW.
4Ac yn awr yr ARGLWYDD eich DUW a roddes esmwythdra i’ch brodyr, fel y llefarodd wrthynt: yn awr gan hynny trowch, ac ewch rhagoch i’ch pebyll, i wlad eich meddiant, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, o’r tu hwnt i’r Iorddonen.
5Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi; sef caru yr ARGLWYDD eich DUW, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchmynion ef, a glynu wrtho ef, a’i wasanaethu ef â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid.
6A Josua a’u bendithiodd hwynt, ac a’u gollyngodd ymaith. A hwy a aethant i’w pebyll.
7Ac i hanner llwyth Manasse y rhoddasai Moses etifeddiaeth yn Basan; ac i’r hanner arall y rhoddodd Josua, gyda’u brodyr, tu yma i’r Iorddonen tua’r gorllewin. Hefyd pan ollyngodd Josua hwynt i’w pebyll, yna efe a’u bendithiodd hwynt;
8Ac efe a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Dychwelwch â chyfoeth mawr i’ch pebyll, ag anifeiliaid lawer iawn, ag arian, ac ag aur, â phres hefyd, ac â haearn, ac â gwisgoedd lawer iawn: rhennwch â’ch brodyr anrhaith eich gelynion.
9A meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a ddychwelasant, ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel, o Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, i fyned i wlad Gilead, i wlad eu meddiant hwy, yr hon a feddianasant, wrth orchymyn yr ARGLWYDD trwy law Moses.
10A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen, y rhai sydd yng ngwlad Canaan, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn golwg.
11A chlybu meibion Israel ddywedyd, Wele, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant allor ar gyfer gwlad Canaan, wrth derfynau yr Iorddonen, gan ystlys meibion Israel.
12A phan glybu meibion Israel hynny, yna holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, i ddyfod i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel.
13A meibion Israel a anfonasant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead, Phinees mab Eleasar yr offeiriad,
14A deg o dywysogion gydag ef, un tywysog o bob tŷ, pennaf trwy holl lwythau Israel; a phob un oedd ben yn nhŷ eu tadau, ymysg miloedd Israel.
15A hwy a ddaethant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead; ac a ymddiddanasant â hwynt, gan ddywedyd,
16Fel hyn y dywed holl gynulleidfa yr ARGLWYDD, Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn DUW Israel, gan ddychwelyd heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD, pan adeiladasoch i chwi allor, i wrthryfela heddiw yn erbyn yr ARGLWYDD?
17Ai bychan gennym ni anwiredd Peor, yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho eto hyd y dydd hwn, er bod pla ymysg cynulleidfa yr ARGLWYDD,
18Ond bod i chwi droi ymaith heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD? Ac am i chwi wrthryfela heddiw yn erbyn yr ARGLWYDD, efe a lidia yfory yn erbyn holl gynulleidfa Israel.
19Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan, deuwch drosodd i wlad meddiant yr ARGLWYDD, yr hon y mae tabernacl yr ARGLWYDD yn aros ynddi, a chymerwch feddiant yn ein mysg ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr ARGLWYDD, ac na childynnwch i’n herbyn ninnau, trwy adeiladu ohonoch i chwi eich hun allor, heblaw allor yr ARGLWYDD ein DUW.
20Oni wnaeth Achan mab Sera gamwedd, oherwydd y diofryd-beth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynulleidfa Israel? ac efe oedd un gŵr; eto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd.
21Yna meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a atebasant, ac a lefarasant wrth benaethiaid miloedd Israel;
22ARGLWYDD DDUW y duwiau, ARGLWYDD DDUW y duwiau, efe sydd yn gwybod, ac Israel yntau a gaiff wybod, os mewn gwrthryfel, neu mewn camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD y bu hyn, (na wareder ni y dydd hwn,)
23Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr ARGLWYDD, neu os offrymasom arni boethoffrwm, neu fwyd-offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd; yr ARGLWYDD ei hun a’i gofynno:
24Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ôl hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Beth sydd i chwi a wneloch ag ARGLWYDD DDUW Israel?
25Canys yr ARGLWYDD a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr ARGLWYDD. Felly y gwnâi eich meibion chwi i’n meibion ni beidio ag ofni yr ARGLWYDD.
26Am hynny y dywedasom, Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boethoffrwm, nac i aberth;
27Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl, i gael ohonom wasanaethu gwasanaeth yr ARGLWYDD ger ei fron ef, â’n poethoffrymau, ac â’n hebyrth, ac â’n hoffrymau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ôl hyn wrth ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr ARGLWYDD.
28Am hynny y dywedasom, Pan ddywedont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein hepil ar ôl hyn; yna y dywedwn ninnau, Gwelwch lun allor yr ARGLWYDD, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boethoffrwm, nac i aberth; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi.
29Na ato DUW i ni wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD a dychwelyd heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD; gan adeiladu allor i boethoffrwm, i fwyd-offrwm, neu i aberth, heblaw allor yr ARGLWYDD ein DUW yr hon sydd gerbron ei dabernacl ef.
30A phan glybu Phinees yr offeiriad, a thywysogion y gynulleidfa, a phenaethiaid miloedd Israel y rhai oedd gydag ef, y geiriau a lefarasai meibion Reuben, a meibion Gad, a meibion Manasse, da oedd y peth yn eu golwg hwynt.
31Phinees mab Eleasar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Reuben, ac wrth feibion Gad, ac wrth feibion Manasse, Heddiw y gwybuom fod yr ARGLWYDD yn ein plith; oherwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr ARGLWYDD: yn awr gwaredasoch feibion Israel o law yr ARGLWYDD.
32Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a’r tywysogion, oddi wrth feibion Reuben, ac oddi wrth feibion Gad, o wlad Gilead, i wlad Canaan, at feibion Israel, ac a ddygasant drachefn air iddynt.
33A da oedd y peth yng ngolwg meibion Israel; a meibion Israel a fendithiasant DDUW, ac ni soniasant am fyned i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel, i ddifetha y wlad yr oedd meibion Reuben a meibion Gad yn preswylio ynddi.
34A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed: canys tyst fydd hi rhyngom ni, mai yr ARGLWYDD sydd DDUW.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.