1 Cronicl 20 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Darfu hefyd wedi gorffen y flwyddyn, yn amser myned o’r brenhinoedd allan i ryfela, arwain o Joab gadernid y llu, ac anrheithio gwlad meibion Ammon, ac efe a ddaeth ac a warchaeodd ar Rabba: ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem: a Joab a drawodd Rabba, ac a’i dinistriodd hi.

2A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben, a chafodd hi o bwys talent o aur, ac ynddi feini gwerthfawr, a hi a roed am ben Dafydd: ac efe a ddug anrhaith fawr iawn o’r ddinas.

3A’r bobl oedd ynddi a ddug efe allan, ac a’u torrodd hwynt â llifiau, ac ag ogau heyrn, ac â bwyeill: ac fel hyn y gwnaeth Dafydd â holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem.

4Ac ar ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o feibion y cawr; felly y darostyngwyd hwynt.

5A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mab Jair a laddodd Lahmi, brawd Goleiath y Gethiad, a phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd.

6Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr hir, a’i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntau hefyd a anesid i’r cawr.

7Ond pan ddifenwodd efe Israel, Jonathan mab Simea brawd Dafydd a’i lladdodd ef.

8Y rhai hyn a anwyd i’r cawr yn Gath, ac a laddwyd trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help