Y Salmau 87 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 87Salm neu Gân meibion Cora.

1Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd.

2Yr ARGLWYDD a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob.

3Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas DUW. Sela.

4Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn.

5Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi.

6Yr ARGLWYDD a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela.

7Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help