Diarhebion 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn.

2Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd.

3Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas:

4Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd,

5Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac yfwch o’r gwin a gymysgais.

6Ymadewch â’r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall.

7Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf.

8Na cherydda watwarwr, rhag iddo dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a’th gâr di.

9Dyro addysg i’r doeth, ac efe fydd doethach: dysg y cyfiawn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth.

10Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: a gwybodaeth y sanctaidd yw deall.

11Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau, ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes.

12Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun: ond os gwatwarwr fyddi, tydi dy hun a’i dygi.

13Gwraig ffôl a fydd siaradus; angall yw, ac ni ŵyr ddim:

14Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar fainc, yn y lleoedd uchel yn y ddinas,

15I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn:

16Pwy bynnag sydd ehud, tröed yma: a phwy bynnag sydd ddisynnwyr, a hi a ddywed wrtho,

17Dyfroedd lladrad sydd felys, a bara cudd sydd beraidd.

18Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help