Job 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Galw yn awr, od oes neb a etyb i ti, ac at bwy o’r saint y troi di?

2Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd, a chenfigen a ladd yr annoeth.

3Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio: ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth.

4Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredydd.

5Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf, wedi iddo ei gymryd o blith drain, a’r sychedig a lwnc eu cyfoeth.

6Er na ddaw cystudd allan o’r pridd, ac na flagura gofid allan o’r ddaear:

7Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny.

8Eto myfi a ymgynghorwn â DUW: ac ar DDUW y rhoddwn fy achos:

9Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi:

10Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd:

11Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth.

12Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.

13Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir.

14Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos.

15Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn.

16Felly y mae gobaith i’r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn.

17Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo DUW; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog.

18Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a’i ddwylo ef a iachânt.

19Mewn chwech o gyfyngderau efe ’th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi.

20Mewn newyn efe a’th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf.

21Rhag ffrewyll tafod y’th guddir; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo.

22Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear.

23Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi.

24A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â’th drigfa, ac ni phechi.

25A chei wybod hefyd mai lluosog fydd dy had, a’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear.

26Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd, tel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser.

27Wele hyn, ni a’i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help