Numeri 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin yng nghlustiau yr ARGLWYDD: a chlywodd yr ARGLWYDD hyn; a’i ddig a enynnodd; a thân yr ARGLWYDD a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwr y gwersyll.

2A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr ARGLWYDD; a’r tân a ddiffoddodd.

3Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Tabera: am gynnau o dân yr ARGLWYDD yn eu mysg hwy.

4A’r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i’w fwyta?

5Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad, y cucumerau, a’r pompionau, a’r cennin, a’r winwyn, a’r garlleg:

6Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg.

7A’r manna hwnnw oedd fel had coriander, a’i liw fel lliw bdeliwm.

8Y bobl a aethant o amgylch, ac a’i casglasant ac a’i malasant mewn melinau, neu a’i curasant mewn morter, ac a’i berwasant mewn peiriau, ac a’i gwnaethant yn deisennau: a’i flas ydoedd fel blas olew ir.

9A phan ddisgynnai’r gwlith y nos ar y gwersyll, disgynnai’r manna arno ef.

10A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac enynnodd dig yr ARGLWYDD yn fawr; a drwg oedd gan Moses.

11Dywedodd Moses hefyd wrth yr ARGLWYDD, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?

12Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a’u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau?

13O ba le y byddai gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i’w fwyta.

14Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi.

15Ac os felly y gwnei i mi, atolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.

16A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thrigain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyda thi.

17Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymeraf o’r ysbryd sydd arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyda thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.

18Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr ARGLWYDD i chwi gig, a chwi a fwytewch.

19Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod;

20Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau, a’i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu’r ARGLWYDD yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd Paham y daethom allan o’r Aifft?

21A dywedodd Moses, Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau.

22Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt?

23A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, A gwtogwyd llaw yr ARGLWYDD? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.

24A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr ARGLWYDD wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl, ac a’u gosododd hwynt o amgylch y babell.

25Yna y disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o’r ysbryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg hynafgwr a thrigain. A thra y gorffwysai’r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent.

26A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o’r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i’r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll.

27A rhedodd llanc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll.

28A Josua mab Nun, gweinidog Moses o’i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd, Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt.

29A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr ARGLWYDD yn broffwydi, a rhoddi o’r ARGLWYDD ei ysbryd arnynt!

30A Moses a aeth i’r gwersyll, efe a henuriaid Israel.

31Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr ARGLWYDD, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a’u taenodd wrth y gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear.

32Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a’r nos oll, a’r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll.

33A’r cig oedd eto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan enynnodd digofaintyr ARGLWYDD yn erbyn y bobl; a’r ARGLWYDD a drawodd y bobl â phla mawr iawn.

34Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth-hattaafa; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent.

35O Feddau y blys yr aeth y bobl i Haseroth; ac arosasant yn Haseroth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help