1O Arglwydd hollalluog, Duw Israel, y mae’r enaid sydd mewn ing, a’r ysbryd cystuddiol, yn llefain arnat ti.
2Clyw, Arglwydd, a thrugarha; oblegid Duw trugarog ydwyt ti: cymer drugaredd, oblegid nyni a bechasom i’th erbyn.
3Oherwydd yr ydwyt ti yn aros byth, a derfydd amdanom ninnau yn llwyr.
4O Arglwydd hollalluog, Duw Israel, gwrando ar weddïau’r Israeliaid meirw, a’u meibion hwynt, y rhai a bechasant i’th erbyn, ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd eu Duw: am ba achos y glynodd y drygau hyn wrthym ni.
5Na chofia anwireddau ein tadau: eithr cofia dy allu a’th enw dy hun y pryd hyn.
6Oherwydd tydi yw ein Harglwydd Dduw; a thydi, O Arglwydd, a foliannwn ni.
7Oblegid er mwyn hyn y rhoddaist ti dy ofn yn ein calonnau ni, sef er mwyn galw ohonom ar dy enw, a’th foliannu yn ein caethiwed: oblegid ni a gofiasom holl anwiredd ein tadau, y rhai a bechasant ger dy fron di.
8Wele ni eto yn ein caethiwed, lle y gwasgeraist ti nyni yn waradwydd, ac yn felltith, ac i fod dan dreth, yn ôl holl anwireddau ein tadau, y rhai a giliasant oddi wrth yr Arglwydd ein Duw ni.
9Clyw, O Israel, orchmynion y bywyd; gwrando, i gael gwybod doethineb.
10Paham, Israel, yr ydwyt ti yn nhir dy elynion? yr heneiddiaist mewn gwlad ddieithr? ac y’th halogwyd gan y meirw?
11Paham y’th gyfrifwyd gyda’r rhai a aethant i’r bedd?
12Tydi a adewaist ffynnon doethineb.
13Pe rhodiesit ti yn ffordd Duw, ti a drigesit mewn heddwch byth.
14Dysg pa le y mae doethineb, pa le y mae grymustra, pa le y mae deall; i gael gwybod hefyd pa le y mae hir hoedl, ac einioes, pa le y mae goleuni llygaid, a thangnefedd.
15Pwy a gafodd ei lle hi? a phwy a aeth i mewn i’w thrysorau hi?
16Pa le y mae tywysogion y cenhedloedd, a llywodraethwyr yr anifeiliaid sydd ar y ddaear,
17Y rhai oedd yn chwarae ag adar y nefoedd, ac yn tyrru arian ac aur, yn yr hwn yr ymddiried dynion, ac ni wnaent ddiben ar geisio?
18Canys y rhai a fathent arian, a hynny mor afalus, a’u gwaith yn anchwiliadwy,
19Hwy a ddiflanasant, ac a ddisgynasant i’r bedd; a rhai eraill a gododd yn eu lle hwynt.
20Yn ieuainc y gwelsant hwy oleuni, ac a drigasant ar y ddaear: ond nid adnabuant hwy ffordd gwybodaeth.
21Ei llwybrau hi ni ddeallasant chwaith, ac nid ymafaelasant ynddi: pell oedd eu plant oddi ar y ffordd honno.
22Ni chlywyd sôn amdani hi yn Canaan, ac ni welwyd hi yn Theman.
23Yr Agareniaid, y rhai sydd yn ceisio deall ar y ddaear, a marchnadwyr Meran a Theman, dychmygwyr chwedlau, ac yn ceisio deall; ond nid adwaenai un o’r rhai hyn ffordd doethineb, ac ni chofiasant ei llwybrau hi.
24O Israel, mor fawr yw tŷ Dduw! ac mor helaeth yw lle ei feddiant ef!
25Mawr yw efe, ac nid oes diwedd iddo: uchel yw efe, ac anfeidrol.
26Yna yr oedd y cewri enwog gynt, y rhai oedd yn gorffol, ac yn medru rhyfela.
27Nid y rhai hynny a ddewisodd Duw, ac ni roddes iddynt ffordd gwybodaeth.
28Eithr difethwyd hwy, am nad oedd ganddynt ddoethineb; a thrwy eu hynfydrwydd y methasant hwy.
29Pwy a ddringodd i’r nefoedd, ac a’i cymerodd hi, ac a’i dug i waered o’r cymylau?
30Pwy a aeth dros y môr, ac a’i cafodd hi, ac a’i dug hi am aur o’r gorau?
31Nid oes neb yn adnabod ei ffordd hi, nac yn ystyried ei llwybr.
32Ond yr hwn a ŵyr bob peth a’i hedwyn hi, a thrwy ei ddoethineb a’i cafodd hi: yr hwn a ddarparodd y ddaear dros amser tragwyddol, a’i llanwodd hi ag anifeiliaid pedwarcarnol:
33Yr hwn sydd yn anfon goleuni allan, ac fe a â; yn ei alw ef yn ei ôl, ac yntau yn ufuddhau mewn ofn.
34Y sêr a oleuasant yn eu gwyliadwriaethau yn llawen: efe a’u galwodd hwynt, a hwy a ddywedasant, Dyma ni; goleuasant yn llawen i’r hwn a’u gwnaeth hwynt.
35Dyma ein Duw ni; na chyffelyber neb arall iddo ef.
36Efe a gafodd allan bob ffordd gwybodaeth; ac a’i rhoddes hi i Jacob ei was, ac i Israel ei anwylyd.
37Wedi hyn yr ymddangosodd efe ar y ddaear; ac y trigodd ymysg dynion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.