1 Cronicl 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ.

2A gwybu Dafydd sicrhau o’r ARGLWYDD ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel.

3A chymerth Dafydd wragedd ychwaneg yn Jerwsalem: a Dafydd a genhedlodd feibion ychwaneg, a merched.

4A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem: Sammua, a Sobab, Nathan, a Solomon,

5Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet,

6A Noga, a Neffeg, a Jaffa,

7Ac Elisama, a Beeliada, ac Eliffalet.

8A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt.

9A’r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim.

10A Dafydd a ymgynghorodd â DUW, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a’u rhoddaf hwynt yn dy law di.

11Felly yr aethant i fyny i Baal-perasim, a Dafydd a’u trawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, DUW a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel rhwygo dyfroedd: am hynny y galwasant hwy enw y lle hwnnw Baal-perasim.

12A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân.

13A thrachefn eto y Philistiaid a ymwasgarasant yn y dyffryn.

14A Dafydd a ymgynghorodd â DUW drachefn; a DUW a ddywedodd wrtho, Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y morwydd.

15A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel: canys y mae DUW wedi myned o’th flaen di, i daro llu y Philistiaid.

16A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai DUW iddo; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser.

17Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wledydd; a’r ARGLWYDD a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help