Y Salmau 135 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 135

1Molwch yr ARGLWYDD. Molwch enw yr ARGLWYDD; gweision yr ARGLWYDD, molwch ef.

2Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr ARGLWYDD, yng nghynteddoedd tŷ ein DUW ni,

3Molwch yr ARGLWYDD; canys da yw yr ARGLWYDD: cenwch i’w enw; canys hyfryd yw.

4Oblegid yr ARGLWYDD a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo.

5Canys mi a wn mai mawr yw yr ARGLWYDD; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.

6Yr ARGLWYDD a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.

7Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o’i drysorau.

8Yr hwn a drawodd gyntaf-anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.

9Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.

10Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;

11Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:

12Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.

13Dy enw, O ARGLWYDD, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O ARGLWYDD, o genhedlaeth i genhedlaeth.

14Canys yr ARGLWYDD a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.

15Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn.

16Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.

17Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.

18Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

19Tŷ Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD: bendithiwch yr ARGLWYDD, tŷ Aaron.

20Tŷ Lefi, bendithiwch yr ARGLWYDD: y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.

21Bendithier yr ARGLWYDD o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help