Hebreaid 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Am hynny yn wir yr ydoedd hefyd i’r tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a chysegr bydol.

2Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur; y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a’r bwrdd, a’r bara gosod; yr hwn dabernacl a elwid, Y cysegr.

3Ac yn ôl yr ail len, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cysegr sancteiddiolaf;

4Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch; yn yr hon yr oedd y crochan aur a’r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau’r cyfamod:

5Ac uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi’r drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.

6A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i’r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw:

7Ac i’r ail, unwaith bob blwyddyn yr âi’r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto’i hun, a thros anwybodaeth y bobl.

8A’r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn, nad oedd y ffordd i’r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai’r tabernacl cyntaf yn sefyll:

9Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio’r addolydd;

10Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad.

11Eithr Crist, wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o’r adeiladaeth yma;

12Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i’r cysegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhad.

13Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd;

14Pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy’r Ysbryd tragwyddol a’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu’r Duw byw?

15Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd, megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf, y câi’r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol.

16Oblegid lle byddo testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr.

17Canys wedi marw dynion y mae testament mewn grym: oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo’r testamentwr yn fyw.

18O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed.

19Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a’i taenellodd ar y llyfr a’r bobl oll,

20Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi.

21Y tabernacl hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd.

22A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.

23Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau’r pethau sydd yn y nefoedd gael eu puro â’r pethau hyn; a’r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na’r rhai hyn.

24Canys nid i’r cysegr o waith llaw, portreiad y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i’r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni:

25Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych, megis y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn, â gwaed arall:

26(Oblegid yna rhaid fuasai iddo’n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun.

27Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn:

28Felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith, heb bechod, i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help