1Benjamin hefyd a genhedlodd Bela ei gyntaf-anedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd,
2Noha y pedwerydd, a Raffa y pumed.
3A meibion Bela oedd, Adar, a Gera, ac Abihud,
4Ac Abisua, a Naaman, ac Ahoa,
5A Gera, a Seffuffan, a Huram.
6Dyma hefyd feibion Ehud; dyma hwynt pennau-cenedl preswylwyr Geba, a hwy a’u mudasant hwynt i Manahath:
7Naaman hefyd, ac Ahïa, a Gera, efe a’u symudodd hwynt, ac a genhedlodd Ussa, ac Ahihud.
8Cenhedlodd hefyd Saharaim yng ngwlad Moab, gwedi eu gollwng hwynt ymaith: Husim a Baara oedd ei wragedd.
9Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig, Jobab, a Sibia, a Mesa, a Malcham,
10A Jeus, a Sabia, a Mirma. Dyma ei feibion ef, pennau-cenedl.
11Ac o Husim efe a genhedlodd Ahitub ac Elpaal.
12A meibion Elpaal oedd, Eber, a Misam, a Samed, yr hwn a adeiladodd Ono, a Lod a’i phentrefi.
13Bereia hefyd, a Sema oedd bennau-cenedl preswylwyr Ajalon; y rhai a ymlidiasant drigolion Gath.
14Ahïo hefyd, Sasac, a Jeremoth,
15Sebadeia hefyd, ac Arad, ac Ader,
16Michael hefyd, ac Ispa, a Joha, meibion Bereia;
17Sebadeia hefyd, a Mesulam, a Heseci, a Heber,
18Ismerai hefyd, a Jeslïa, a Jobab, meibion Elpaal;
19Jacim hefyd, a Sichri, a Sabdi,
20Elienai hefyd, a Silthai, ac Eliel,
21Adaia hefyd, a Beraia, a Simrath, meibion Simhi;
22Ispan hefyd, a Heber, ac Eliel,
23Abdon hefyd, a Sichri, a Hanan,
24Hananeia hefyd, ac Elam, ac Antotheia,
25Iffedeia hefyd, a Phenuel, meibion Sasac;
26Samserai hefyd, a Sehareia, ac Athaleia,
27Jareseia hefyd, ac Eleia, a Sichri, meibion Jeroham.
28Y rhai hyn oedd bennau-cenedl, sef penaethiaid ar eu cenedlaethau. Y rhai hyn a gyfaneddasant yn Jerwsalem.
29Yn Gibeon hefyd y preswyliodd tad Gibeon, ac enw ei wraig ef oedd Maacha.
30Ac Abdon ei fab cyntaf-anedig ef, Sur hefyd, a Chis, a Baal, a Nadab,
31Gedor hefyd, ac Ahïo, a Sacher.
32Micloth hefyd a genhedlodd Simea: y rhai hyn hefyd, ar gyfer eu brodyr, a breswyliasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr.
33Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal.
34A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha.
35A meibion Micha; Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.
36Ac Ahas a genhedlodd Jehoada, a Jehoada a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri: a Simri a genhedlodd Mosa,
37A Mosa a genhedlodd Binea: Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.
38Ac i Asel y bu chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt, Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Y rhai hyn oll oedd feibion Asel.
39A meibion Esec ei frawd ef oedd, Ulam ei gyntaf-anedig ef, Jehus yr ail, ac Eliffelet y trydydd.
40A meibion Ulam oedd ddynion cedyrn o nerth, yn saethyddion, ac yn aml eu meibion a’u hwyrion, sef cant a deg a deugain. Y rhai hyn oll oedd o feibion Benjamin.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.