Lefiticus 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt,

2Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r anifeiliaid a fwytewch, o’r holl anifeiliaid sydd ar y ddaear.

3Beth bynnag a hollto’r ewin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, ac a gno ei gil, o’r anifeiliaid; hwnnw a fwytewch.

4Ond y rhai hyn ni fwytewch; o’r rhai a gnoant eu cil ac o’r rhai a holltant yr ewin: y camel, er ei fod yn cnoi ei gil, am nad yw yn hollti’r ewin; aflan fydd i chwi.

5A’r gwningen, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi’r ewin; aflan yw i chwi.

6A’r ysgyfarnog, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi’r ewin; aflan yw i chwi.

7A’r llwdn hwch, am ei fod yn hollti’r ewin, ac yn fforchogi fforchogedd yr ewin, a heb gnoi ei gil; aflan yw i chwi.

8Na fwytewch o’u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt: aflan ydynt i chwi.

9Hyn a fwytewch o bob dim a’r sydd yn y dyfroedd: pob peth y mae iddo esgyll a chen, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; y rhai hynny a fwytewch.

10A phob dim nid oes iddo esgyll a chen, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych.

11Byddant ffiaidd gennych: na fwytewch o’u cig hwynt, a ffieiddiwch eu burgyn hwy.

12Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chen iddo, ffieiddbeth fydd i chwi.

13A’r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o’r adar; na fwytewch hwynt, ffieidd-dra ydynt: sef yr eryr, a’r wyddwalch, a’r fôr-wennol;

14A’r fwltur, a’r barcud yn ei ryw;

15Pob cigfran yn ei rhyw;

16A chyw’r estrys, a’r frân nos, a’r gog, a’r gwalch yn ei ryw;

17Ac aderyn y cyrff, a’r fulfran, a’r dylluan,

18A’r gogfran, a’r pelican, a’r biogen,

19A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r ystlum.

20Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd-dra yw i chwi.

21Ond hyn a fwytewch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear;

22O’r rhai hynny y rhai hyn a fwytewch: y locust yn ei ryw, a’r selam yn ei ryw, a’r hargol yn ei ryw, a’r hagab yn ei ryw.

23A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd-dra fydd i chwi.

24Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â’u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.

25A phwy bynnag a ddygo ddim o’u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.

26Am bob anifail fydd yn hollti’r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil, aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt.

27Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr.

28A’r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.

29A’r rhai hyn sydd aflan i chwi o’r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear: y wenci, a’r llygoden, a’r llyffant yn ei ryw;

30A’r draenog, a’r lysard, a’r ystelio, a’r falwoden, a’r wadd.

31Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid: pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr.

32A phob dim y cwympo un ohonynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwneler dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd lân.

33A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o’r rhai hyn i’w fewn, aflan fydd yr hyn oll fydd o’i fewn; a thorrwch yntau.

34Aflan fydd pob bwyd a fwyteir, o’r hwn y dêl dwfr aflan arno; ac aflan fydd pob diod a yfir mewn llestr aflan.

35Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o’u burgyn arno; y ffwrn a’r badell a dorrir: aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi.

36Eto glân fydd y ffynnon a’r pydew, lle mae dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan.

37Ac os syrth dim o’u burgyn hwynt ar ddim had heuedig, yr hwn a heuir; glân yw efe.

38Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o’u burgyn hwynt arno ef; aflan fydd efe i chwi.

39Ac os bydd marw un anifail a’r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â’i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.

40A’r hwn a fwyty o’i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a’r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr.

41A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd-dra: na fwytaer ef.

42Pob peth a gerddo ar ei dor, a phob peth a gerddo ar bedwar troed, a phob peth aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwytewch hwynt: canys ffieidd-dra ydynt.

43Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o’u plegid, fel y byddech aflan o’u herwydd.

44Oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; oherwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.

45Canys myfi yw yr ARGLWYDD, yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn DDUW i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.

46Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a’r ehediaid, a phob peth byw a’r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a’r sydd yn ymlusgo ar y ddaear;

47I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a’r glân, a rhwng yr anifail a fwyteir a’r hwn nis bwyteir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help