1Paratoad y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr ARGLWYDD y mae.
2Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa yr ysbrydion.
3Treigla dy weithredoedd ar yr ARGLWYDD, a’th feddyliau a safant.
4Yr ARGLWYDD a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a’r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg.
5Ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog.
6Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn yr ARGLWYDD y mae ymado oddi wrth ddrwg.
7Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i’r ARGLWYDD, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef.
8Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam.
9Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr ARGLWYDD a gyfarwydda ei gerddediad ef.
10Ymadrodd DUW sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn.
11Pwys a chloriannau cywir, yr ARGLWYDD a’u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god.
12Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd.
13Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn.
14Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a’i gostega.
15Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar.
16Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunol yw nag arian.
17Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid.
18Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp.
19Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion.
20A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a’r neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, O gwyn ei fyd hwnnw!
21Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth.
22Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb.
23Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i’w wefusau.
24Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i’r enaid, ac yn iachus i’r esgyrn.
25Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth.
26Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a’i gofyn ganddo.
27Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth.
28Dyn cyndyn a bair ymryson: a’r hustyngwr a neilltua dywysogion.
29Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda.
30Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben.
31Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder.
32Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun, na’r hwn a enillo ddinas.
33Y coelbren a fwrir i’r arffed: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae ei holl lywodraethiad ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.