Eseciel 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

2Gosod dy wyneb, fab dyn, tua Jerwsalem, a difera dy eiriau tua’r cysegroedd, a phroffwyda yn erbyn gwlad Israel,

3A dywed wrth wlad Israel, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi i’th erbyn, tynnaf hefyd fy nghleddyf o’i wain, a thorraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn.

4Oherwydd y torraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn, am hynny y daw fy nghleddyf allan o’i wain yn erbyn pob cnawd, o’r deau hyd y gogledd;

5Fel y gwypo pob cnawd i mi yr ARGLWYDD dynnu fy nghleddyf allan o’i wain: ni ddychwel efe mwy.

6Ochain dithau, fab dyn, gydag ysictod lwynau; ie, ochain yn chwerw yn eu golwg hwynt.

7A bydd, pan ddywedant wrthyt, Am ba beth yr ydwyt yn ochain? yna ddywedyd ohonot, Am y chwedl newydd, am ei fod yn dyfod, fel y toddo pob calon, ac y llaeso y dwylo oll, ac y pallo pob ysbryd, a’r gliniau oll a ânt fel dwfr; wele efe yn dyfod, ac a fydd, medd yr ARGLWYDD DDUW.

8A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

9Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dywed, Cleddyf, cleddyf a hogwyd, ac a loywyd.

10Efe a hogwyd i ladd lladdfa, efe a loywyd fel y byddai ddisglair: a lawenychwn ni? y mae efe yn dirmygu gwialen fy mab, fel pob pren.

11Ac efe a’i rhoddes i’w loywi, i’w ddal mewn llaw; y cleddyf hwn a hogwyd, ac a loywyd, i’w roddi yn llaw y lleiddiad.

12Gwaedda ac uda, fab dyn; canys hwn fydd ar fy mhobl, hwn fydd yn erbyn holl dywysogion Israel; dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl: am hynny taro law ar forddwyd.

13Canys profiad yw; a pheth os y cleddyf a ddiystyra y wialen? ni bydd efe mwy, medd yr ARGLWYDD DDUW.

14Tithau, fab dyn, proffwyda, a tharo law wrth law, a dybler y cleddyf y drydedd waith: cleddyf y lladdedigion, cleddyf lladdedigaeth y gwŷr mawr ydyw, yn myned i’w hystafelloedd hwynt.

15Rhoddais flaen y cleddyf yn erbyn eu holl byrth hwynt, i doddi eu calon, ac i amlhau eu tramgwyddiadau: O, gwnaed ef yn loyw, hogwyd ef i ladd!

16Dos ryw ffordd, naill ai ar y llaw ddeau, ai ar y llaw aswy, lle y tueddo dy wyneb.

17Minnau hefyd a drawaf y naill law yn y llall, ac a lonyddaf fy llid: myfi yr ARGLWYDD a’i lleferais.

18A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

19Tithau, fab dyn, gosod i ti ddwy ffordd, fel y delo cleddyf brenin Babilon; o un tir y deuant ill dwy: a dewis le, ym mhen ffordd y ddinas y dewisi ef.

20Gosod ffordd i ddyfod o’r cleddyf tua Rabbath meibion Ammon, a thua Jwda yn erbyn Jerwsalem gaerog.

21Canys safodd brenin Babilon ar y groesffordd, ym mhen y ddwyffordd, i ddewinio dewiniaeth: gloywodd ei saethau, ymofynnodd â delwau, edrychodd mewn afu.

22Yn ei law ddeau yr oedd dewiniaeth Jerwsalem, am osod capteiniaid i agoryd safn mewn lladdedigaeth, i ddyrchafu llef gyda bloedd, i osod offer rhyfel yn erbyn y pyrth, i fwrw clawdd, i adeiladu amddiffynfa.

23A hyn fydd ganddynt, fel dewinio dewiniaeth gwagedd yn eu golwg hwynt, i’r rhai a dyngasant lwon: ond efe a gofia yr anwiredd, i’w dal hwynt.

24Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Am beri ohonoch gofio eich anwiredd, gan amlygu eich camweddau, fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weithredoedd; am beri ohonoch eich cofio, y’ch delir â llaw.

25Tithau, halogedig annuwiol dywysog Israel, yr hwn y daeth ei ddydd, yn amser diwedd anwiredd,

26Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Symud y meitr, a thyn ymaith y goron; nid yr un fydd hon: cyfod yr isel, gostwng yr uchel.

27Dymchwelaf, dymchwelaf, dymchwelaf hi; ac ni bydd mwyach hyd oni ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo; ac iddo ef y rhoddaf hi.

28Proffwyda dithau, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am feibion Ammon, ac am eu gwaradwydd hwynt; dywed di, Y cleddyf, y cleddyf a dynnwyd: i ladd y gloywyd ef, i ddifetha oherwydd y disgleirdeb:

29Wrth weled gwagedd i ti, wrth ddewinio i ti gelwydd, i’th roddi ar yddfau y lladdedigion, y drygionus y rhai y daeth eu dydd, yn amser diwedd eu hanwiredd.

30A ddychwelaf fi ef i’w wain? yn y lle y’th grewyd, yn nhir dy gynefin, y’th farnaf.

31A thywalltaf fy nicllonedd arnat, â thân fy llidiowgrwydd y chwythaf arnat, a rhoddaf di yn llaw dynion poethion, cywraint i ddinistrio.

32I’r tân y byddi yn ymborth; dy waed fydd yng nghanol y tir; ni’th gofir mwyach: canys myfi yr ARGLWYDD a’i dywedais.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help