1A Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,
2Pa bryd y derfydd eich ymadrodd? ystyriwch, wedi hynny ninnau a lefarwn.
3Paham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi?
4O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddicllondeb, ai er dy fwyn di y gadewir y ddaear? neu y symudir y graig allan o’i lle?
5Ie, goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir, a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha.
6Goleuni a dywylla yn ei luesty ef; a’i lusern a ddiffydd gydag ef.
7Camre ei gryfder ef a gyfyngir, a’i gyngor ei hun a’i bwrw ef i lawr.
8Canys efe a deflir i’r rhwyd erbyn ei draed, ac ar faglau y rhodia efe.
9Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a’r gwylliad fydd drech nag ef.
10Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear, a magl iddo ar y llwybr.
11Braw a’i brawycha ef o amgylch, ac a’i gyr i gymryd ei draed.
12Ei gryfder fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys.
13Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf-anedig angau a fwyty ei gryfder ef.
14Ei hyder ef a dynnir allan o’i luesty: a hynny a’i harwain ef at frenin dychryniadau.
15Efe a drig yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef.
16Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a’i frig a dorrir oddi arnodd.
17Ei goffadwriaeth a gollir o’r ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol.
18Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch: efe a ymlidir allan o’r byd.
19Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef.
20Y rhai a ddêl ar ei ôl, a synna arnynt oherwydd ei ddydd ef; a’r rhai o’r blaen a gawsant fraw.
21Yn wir, dyma drigleoedd yr anwir; a dyma le y dyn nid edwyn DDUW.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
