1Antiochus hefyd mab y brenin Demetrius, a anfonodd lythyrau o ynysoedd y môr at Simon yr offeiriad, a phencenedl yr Iddewon, ac at y genedl oll;
2Ac yr oeddynt hwy yn cynnwys y modd hyn: Y brenin Antiochus yn cyfarch gwell i Simon archoffeiriad a thywysog ei genedl, a phobl yr Iddewon:
3Oherwydd i wŷr ysgeler gael gafael ar deyrnas ein hynafiaid ni, a bod yn fy mryd roddi hawl i’r frenhiniaeth, i’w hailosod fel yr oedd o’r blaen; er mwyn hynny mi a gesglais lawer o filwyr dieithr, ac a baratoais longau rhyfel;
4Ac yr ydwyf fi yn ewyllysio myned trwy’r wlad, i ddial ar y rhai a anrheithiasant ein gwlad ni, ac a wnaethant lawer o ddinasoedd yn anghyfannedd yn y deyrnas.
5Am hynny yn awr yr ydwyf yn sicrhau i ti yr holl offrymau, y rhai a ganiataodd y brenhinoedd a fuant o’m blaen i ti, a pha bethau bynnag eraill a ganiatasant hwy i ti;
6Megis y gadawsant i ti daro bath o arian priodol i’th wlad di.
7Ac am Jerwsalem a’r cysegr, byddant yn rhyddion, a’r holl arfau a wnaethost ti, a’r cestyll a adeiledaist, y rhai yr ydwyt mewn meddiant ohonynt, parhaed hynny i ti.
8Maddeuer hefyd i ti bob dyled i’r brenin, a’r hyn a fyddo dyledus i’r brenin i hyn allan byth.
9A phan ddarffo gwastatáu ein teyrnas, nyni a’th anrhydeddwn di, a’th genedl, a’r deml, ag anrhydedd mawr, fel y byddo eglur eich gogoniant chwi trwy’r holl fyd.
10Y bedwaredd flwyddyn ar ddeg a thrigain a chant yr aeth Antiochus i dir ei hynafiaid: a’r holl luoedd a ddaethant ynghyd ato ef, fel nad oedd ond ychydig gyda Thryffon.
11A’r brenin Antiochus a’i hymlidiodd ef, ac yntau a ddaeth dan ffoi i Dora sy ar lan y môr.
12Oblegid efe a wybu ymgasglu o ddrygau yn ei erbyn ef, ac i’r lluoedd ei adael ef.
13Ac Antiochus a wersyllodd yn erbyn Dora, a chydag ef chwe ugain mil o ryfelwyr, ac wyth mil o wŷr meirch.
14Ac efe a amgylchodd y ddinas, ac a osododd y llongau wrth y ddinas o du’r môr, ac a flinodd y ddinas o’r tir a’r môr, fel na adawodd efe i neb fyned allan na dyfod i mewn.
15Yna y daeth Numenius a’r rhai oedd gydag ef, o Rufain, â llythyrau ganddynt at y brenhinoedd a’r gwledydd, yn y rhai yr oedd hyn yn sgrifenedig:
16Lucius, Consul y Rhufeiniaid, yn annerch y brenin Ptolemeus.
17Cenhadon yr Iddewon, ein cyfeillion a’n cymdeithion, a ddaethant atom ni i adnewyddu’r gyfeillach a’r gymdeithas a fuasai o’r blaen; wedi eu hanfon oddi wrth Simon yr archoffeiriad, a phobl yr Iddewon:
18A hwy a ddygasant darian o aur o bum mil o bunnoedd.
19Am hynny nyni a welsom yn dda sgrifennu at y brenhinoedd a’r gwledydd, na cheisient niwed iddynt, ac na ryfelent yn eu herbyn hwynt, na’u dinasoedd, na’u gwlad, ac na chynorthwyent y rhai a ryfelent i’w herbyn.
20Ac ni a welsom yn dda dderbyn y darian ganddynt hwy.
21Am hynny os ffodd rhai dynion ysgeler o’u gwlad hwynt atoch chwi, rhoddwch hwynt i Simon yr archoffeiriad, i ddial arnynt yn ôl eu cyfraith hwynt.
22A hyn hefyd a sgrifennodd efe at Demetrius y brenin, ac Attalus, ac Arathes, ac Arsaces,
23Ac i bob gwlad, megis i Sampsames, at y Spartiaid, i Delus hefyd, ac i Myndus, ac i Sicyon, ac i Caria, ac i Samos, a Phamffylia, ac i Lycia, ac i Halicarnassus, ac i Rhodus, a Pharselis, ac i Cos, ac i Side, ac i Aradus, ac i Gortyna, a Chnidus, a Cyprus, a Cyrene.
24A hwy a sgrifenasant gopi o hyn at Simon yr archoffeiriad.
25A’r brenin Antiochus a wersyllodd yn erbyn Dora yr ail dydd, gan ddwyn ei luoedd yn wastadol yn ei herbyn hi, a gwneuthur offer rhyfel: ac efe a gaeodd ar Tryffon fel na allai efe fyned nac i mewn nac allan.
26A Simon a anfonodd iddo ddwy fil o wŷr dewisol i’w gynorthwyo ef, ac aur, ac arian, ac arfau lawer.
27Ac ni fynnai efe eu cymryd hwynt, eithr efe a dorrodd yr amodau oll a wnaethai efe ag ef o’r blaen, ac a ymddieithrodd oddi wrtho ef.
28Ac efe a anfonodd Athenobius, un o’i garedigion, i ymddiddan ag ef, gan ddywedyd, Yr ydych chwi yn meddiannu Jope, a Gasara, a’r tŵr yn Jerwsalem, dinasoedd fy nheyrnas i.
29Chwi a wnaethoch eu cyffiniau hwynt yn anghyfannedd, ac a wnaethoch ddialedd mawr yn y tir, ac a feddianasoch lawer o fannau yn fy nheyrnas.
30Am hynny yr awron moeswch y dinasoedd a gymerasoch chwi, ac ardreth y lleoedd a feddianasoch, o’r tu allan i gyffiniau Jwdea:
31Ac onid e, moeswch i mi bum cant o dalentau arian amdanynt hwy; a phum cant eraill o dalentau am y dinistr a wnaethoch, ac ardreth y lleoedd: onid e, nyni a ddeuwn, ac a ymladdwn yn eich erbyn chwi.
32Felly y daeth Athenobius caredig y brenin, i Jerwsalem, ac efe a welodd ogoniant Simon, a’r cwpwrdd, a’r llestri arian, a’r arlwy mawr; a rhyfedd fu ganddo: ac efe a fynegodd iddo eiriau y brenin.
33Yna Simon a atebodd, ac a ddywedodd wrtho ef, Ni chymerasom ni dir neb arall, ac nid ataliasom yr eiddo eraill, ond etifeddiaeth ein hynafiaid, yr hon a fu dros ennyd o amser ym meddiant ein gelynion yn anghyfiawn;
34A phan gawsom ni amser, ni a fynasom drachefn etifeddiaeth ein tadau.
35Ac am Jope a Gasara, y rhai yr wyt ti yn eu ceisio, er iddynt wneuthur niwed mawr i’n pobl ni, ac i’n gwlad; eto ni a roddwn am y rhai hynny gan talent. Ac nid atebodd yntau air iddo;
36Eithr efe a ddychwelodd at y brenin yn ddicllon, ac a fynegodd iddo y geiriau hyn, ac anrhydedd Simon, a’r hyn a welsai efe oll: a’r brenin a ddigiodd yn ddirfawr.
37Yna yr aeth Tryffon i long, ac a ffodd i Orthosias.
38A’r brenin a osododd Cendebeus yn gapten ar lan y môr, ac a roddes iddo luoedd o wŷr traed ac o wŷr meirch.
39Ac efe a orchmynnodd iddo wersyllu o flaen Jwdea, ac a archodd iddo adeiladu Cedron, a chadarnhau’r pyrth, a rhyfela yn erbyn y bobl: a’r brenin yntau a ymlidiodd Tryffon.
40Yna y daeth Cendebeus i Jamnia; ac efe a ddechreuodd gyffroi’r bobl, a gosod ar Jwdea, a chaethgludo’r bobl, a’u lladd.
41Ac wedi iddo adeiladu Cedron, efe a osododd yno wŷr meirch, a llu o wŷr traed, fel y gallent fyned allan oddi yno, a rhodio ar hyd ffyrdd Jwdea, fel y gorchmynasai’r brenin iddo ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.