Lefiticus 13 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

2Dyn (pan fyddo yng nghroen ei gnawd chwydd, neu gramen, neu ddisgleirder, a bod yng nghroen ei gnawd ef megis pla’r clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at un o’i feibion ef yr offeiriaid.

3A’r offeiriad a edrych ar y pla yng nghroen y cnawd: os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wyn, a gwelediad y pla yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef; pla gwahanglwyf yw hwnnw: a’r offeiriad a’i hedrych, ac a’i barn yn aflan.

4Ond os y disgleirdeb fydd gwyn yng nghroen ei gnawd ef, ac heb fod yn is ei welediad na’r croen, a’i flewyn heb droi yn wyn; yna caeed yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod.

5A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef: ac wele, os sefyll y bydd y pla yn ei olwg ef, heb ledu o’r pla yn y croen; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod eilwaith.

6Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd: ac wele, os bydd y pla yn odywyll, heb ledu o’r pla yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân: cramen yw honno: yna golched ei wisgoedd a glân fydd.

7Ac os y gramen gan ledu a leda yn y croen, wedi i’r offeiriad ei weled, i’w farnu yn lân; dangoser ef eilwaith i’r offeiriad.

8Ac os gwêl yr offeiriad, ac wele, ledu o’r gramen yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw.

9Pan fyddo ar ddyn bla gwahanglwyf, dyger ef at yr offeiriad;

10Ac edryched yr offeiriad: yna, os chwydd gwyn a fydd yn y croen, a hwnnw wedi troi’r blewyn yn wyn, a dim cig noeth byw yn y chwydd;

11Hen wahanglwyf yw hwnnw yng nghroen ei gnawd ef; a barned yr offeiriad ef yn aflan: na chaeed arno; oherwydd y mae efe yn aflan.

12Ond os y gwahanglwyf gan darddu a dardda yn y croen, a gorchuddio o’r gwahanglwyf holl groen y clwyfus, o’i ben hyd ei draed, pa le bynnag yr edrycho’r offeiriad;

13Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os y gwahanglwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: trodd yn wyn i gyd: glân yw.

14A’r dydd y gwelir ynddo gig byw, aflan fydd.

15Yna edryched yr offeiriad ar y cig byw, a barned ef yn aflan: aflan yw y cig byw hwnnw; gwahanglwyf yw.

16Neu os dychwel y cig byw, a throi yn wyn; yna deued at yr offeiriad:

17Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os trodd y pla yn wyn; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: glân yw efe.

18Y cnawd hefyd y bu ynddo gornwyd yn ei groen, a’i iacháu;

19A bod yn lle y cornwyd chwydd gwyn, neu ddisgleirder gwyngoch, a’i ddangos i’r offeiriad:

20Os, pan edrycho yr offeiriad arno, y gwelir ef yn is na’r croen, a’i flewyn wedi troi yn wyn; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw efe wedi tarddu o’r cornwyd.

21Ond os yr offeiriad a’i hedrych; ac wele, ni bydd ynddo flewyn gwyn, ac ni bydd is na’r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.

22Ac os gan ledu y lleda yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla yw efe.

23Ond os y disgleirder a saif yn ei le, heb ymledu, craith cornwyd yw efe; a barned yr offeiriad ef yn lân.

24Os cnawd fydd â llosgiad yn y croen, a bod i’r cig byw sydd yn llosgi, ddisgleirder gwyngoch, neu wyn;

25Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os blewyn yn y disgleirdeb fydd wedi troi yn wyn, ac yn is i’w weled na’r croen; gwahanglwyf yw hwnnw yn tarddu o’r llosgiad; a barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw.

26Ond os yr offeiriad a’i hedrych; ac wele, ni bydd blewyn gwyn yn y disgleirder, ac ni bydd is na’r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.

27Ac edryched yr offeiriad ef y seithfed dydd: os gan ledu y lledodd yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw.

28Ac os y disgleirdeb a saif yn ei le, heb ledu yn y croen, ond ei fod yn odywyll; chwydd y llosgiad yw efe; barned yr offeiriad ef yn lân: canys craith y llosgiad yw hwnnw.

29Os bydd gŵr neu wraig â phla arno mewn pen neu farf;

30Yna edryched yr offeiriad y pla: ac wele, os is y gwelir na’r croen, a blewyn melyn main ynddo; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: y ddufrech yw hwnnw; gwahanglwyf pen neu farf yw.

31Ac os yr offeiriad a edrych ar bla’r ddufrech; ac wele, ni bydd yn is ei weled na’r croen, ac heb flewyn du ynddo; yna caeed yr offeiriad ar yr hwn y bo arno y ddufrech, saith niwrnod.

32Ac edryched yr offeiriad ar y pla y seithfed dydd: ac wele, os y ddufrech ni bydd wedi lledu, ac ni bydd blewyn melyn ynddi, a heb fod yn is gweled y ddufrech na’r croen;

33Yna eillier ef, ac nac eillied y fan y byddo y ddufrech; a chaeed yr offeiriad ar berchen y ddufrech saith niwrnod eilwaith.

34A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ar y ddufrech: ac wele, os y ddufrech ni ledodd yn y croen, ac ni bydd is ei gweled na’r croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân, a golched ei ddillad, a glân fydd.

35Ond os y ddufrech gan ledu a leda yn y croen, wedi ei lanhau ef;

36Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os lledodd y ddufrech yn y croen, na chwilied yr offeiriad am y blewyn melyn: y mae efe yn aflan.

37Ond os sefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef, a blewyn du wedi tyfu ynddi; aeth y ddufrech yn iach, glân yw hwnnw; a barned yr offeiriad ef yn lân.

38Os bydd yng nghroen cnawd gŵr neu wraig lawer o ddisglair fannau gwynion;

39Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os bydd yng nghroen eu cnawd hwynt ddisgleiriadau gwynion wedi gordduo; brychni yw hynny yn tarddu yn y croen: glân yw efe.

40A gŵr pan syrthio gwallt ei ben, moel yw; eto glân fydd.

41Ac os o du ei wyneb y syrth gwallt ei ben, efe a fydd talfoel; eto glân fydd efe.

42Ond pan fyddo anafod gwyngoch yn y penfoeledd neu yn y talfoeledd; gwahanglwyf yw efe yn tarddu yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef.

43Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os bydd chwydd yr anafod yn wyngoch, yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef, fel gwelediad gwahanglwyf yng nghroen y cnawd;

44Gŵr gwahanglwyfus yw hwnnw, aflan yw; a’r offeiriad a’i barna ef yn llwyr aflan: yn ei ben y mae ei bla.

45A’r gwahanglwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo, a’i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus uchaf, a llefed, Aflan, aflan.

46Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno, bernir ef yn aflan: aflan yw efe: triged ei hunan; bydded ei drigfa allan o’r gwersyll.

47Ac os dilledyn fydd â phla gwahanglwyf ynddo, o ddilledyn gwlân, neu o ddilledyn llin,

48Pa un bynnag ai yn yr ystof, ai yn yr anwe, o lin, neu o wlân, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen;

49Os gwyrddlas neu goch fydd yr anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen: pla’r gwahanglwyf yw efe; a dangoser ef i’r offeiriad.

50Ac edryched yr offeiriad ar y pla; a chaeed ar y peth y bo y pla arno, saith niwrnod.

51A’r seithfed dydd edryched ar y pla: os y pla a ledodd yn y dilledyn, pa un bynnag ai mewn ystof, ai mewn anwe, ai mewn croen, neu beth bynnag a wnaed o groen; gwahanglwyf ysol yw y pla; aflan yw.

52Am hynny llosged y dilledyn hwnnw, pa un bynnag ai ystof, ai anwe, o wlân, neu o lin, neu ddim o groen, yr hwn y byddo pla ynddo: canys gwahanglwyf ysol yw efe; llosger yn tân.

53Ac os edrych yr offeiriad; ac wele, ni ledodd y pla mewn dilledyn, mewn ystof, neu mewn anwe, neu ddim o groen;

54Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo y pla ynddo, a chaeed arno saith niwrnod eilwaith.

55Ac edryched yr offeiriad ar y pla wedi ei olchi: ac wele, os y pla ni throdd ei liw, ac ni ledodd y pla; efe a fydd aflan; llosg ef yn tân; ysiad yw, pa un bynnag y bo yn llwm ai o’r tu mewn ai o’r tu allan.

56Ac os edrych yr offeiriad; ac wele’r pla yn odywyll, ar ôl ei olchi; yna torred ef allan o’r dilledyn, neu o’r croen, neu o’r ystof, neu o’r anwe.

57Ond os gwelir ef eto yn y dilledyn, yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen; tarddu y mae efe: llosg yr hwn y mae y pla ynddo yn tân.

58A’r dilledyn, neu yr ystof, neu yr anwe, neu pa beth bynnag o groen, y rhai a olcher, os ymadawodd y pla â hwynt, a olchir eilwaith; a glân fydd.

59Dyma gyfraith pla gwahanglwyf, mewn dilledyn gwlân, neu lin, mewn ystof, neu anwe, neu pa beth bynnag o groen, i’w farnu yn lân, neu i’w farnu yn aflan.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help