Y Salmau 55 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 55I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.

1Gwrando fy ngweddi, O DDUW; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad.

2Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan,

3Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog.

4Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf.

5Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd.

6A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn.

7Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela.

8Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl.

9Dinistria, O ARGLWYDD, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas.

10Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.

11Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi.

12Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef:

13Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod,

14Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ DDUW ynghyd.

15Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.

16Myfi a waeddaf ar DDUW; a’r ARGLWYDD a’m hachub i.

17Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.

18Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi.

19 DUW a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant DDUW.

20Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod.

21Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.

22Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth.

23Tithau, DDUW, a’u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help