Lefiticus 17 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Dyma y peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

3Pob un o dŷ Israel a laddo ych, neu oen, neu afr, o fewn y gwersyll, neu a laddo allan o’r gwersyll,

4Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymu offrwm i’r ARGLWYDD, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD; gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnnw; gwaed a dywalltodd efe: a thorrir y gŵr hwnnw ymaith o blith ei bobl.

5Oherwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ie, dygant hwynt i’r ARGLWYDD, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r ARGLWYDD.

6A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod, a llosged y gwêr yn arogl peraidd i’r ARGLWYDD.

7Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid, y rhai y buant yn puteinio ar eu hôl. Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt, trwy eu cenedlaethau.

8Dywed gan hynny wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a offrymo boethoffrwm, neu aberth,

9Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, i’w offrymu i’r ARGLWYDD; torrir ymaith y gŵr hwnnw o blith ei bobl.

10A phwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a fwytao ddim gwaed; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwytao waed, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.

11Oherwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed; a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymod dros eich eneidiau; oherwydd y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid.

12Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytaed un enaid ohonoch waed; a’r dieithr a ymdeithio yn eich mysg, na fwytaed waed.

13A phwy bynnag o feibion Israel, neu o’r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg, a helio helfa o fwystfil, neu o aderyn a fwytaer; tywallted ymaith ei waed ef, a chuddied ef â llwch.

14Oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed; yn lle ei einioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytewch waed un cnawd; oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed: pwy bynnag a’i bwytao, a dorrir ymaith.

15A phob dyn a’r a fwytao’r peth a fu farw ohono ei hun, neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai priodor, ai dieithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd.

16Ond os efe nis gylch hwynt, ac ni ylch ei gnawd; yna y dwg efe ei anwiredd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help