I Macabeiad 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 10

1Yn yr wythugeinfed flwyddyn, Alexander mab Antiochus a gyfenwid Epiffanes, a aeth i fyny ac a enillodd Ptolemais; a’r dinasyddion a’i derbyniasent ef, ac efe a deyrnasodd yno.

2Pan glybu Demetrius hynny, efe a gasglodd lu mawr anfeidrol, ac a aeth allan yn ei erbyn ef i ryfela.

3A Demetrius a ddanfonodd lythyrau at Jonathan â geiriau heddychol, gan ei fawrygu ef.

4Canys efe a ddywedodd, Nyni a wnawn dangnefedd ag ef yn gyntaf, cyn heddychu ohono ag Alexander yn ein herbyn ni:

5Os amgen, efe a gofia’r holl ddrwg a wnaethom ni yn ei erbyn ef, ac yn erbyn ei frodyr a’i bobl.

6Ac efe a roddes awdurdod i Jonathan i gasglu llu o wŷr, ac i ddarparu arfau, fel y cynorthwyai efe ef mewn rhyfel: ac efe a orchmynnodd roddi’r gwystlon oedd yn y castell iddo ef.

7Yna Jonathan a ddaeth i Jerwsalem, ac a ddarllenodd y llythyrau, lle’r oedd yr holl bobl, a’r rhai oedd yn y castell, yn clywed.

8A hwy a ofnasant yn ddirfawr pan glywsant roddi o’r brenin awdurdod iddo ef i gasglu llu.

9A’r rhai oedd yn y castell a roesant y gwystlon i Jonathan: ac efe a’u hadferodd hwy i’w rhieni.

10Jonathan hefyd a drigodd yn Jerwsalem, ac a ddechreuodd adeiladu ac adnewyddu’r ddinas.

11Ac efe a orchmynnodd i’r gweithwyr adeiladu y caerau, a mynydd Seion o’i amgylch, â cherrig pedwarochrog i fod yn lle cadarn: ac felly y gwnaethant hwy.

12Yna y Cenhedloedd, y rhai oedd yn y cestyll a wnaethai Bacchides, a ffoesant.

13A phob un a adawodd ei le, ac a aeth ymaith i’w wlad ei hun.

14Yn unig yn Bethsura yr arhosodd rhai o’r rhai a wrthodasent y gyfraith a’r gorchmynion: oblegid honno oedd eu noddfa hwy.

15Pan glywodd Alexander y brenin yr addewidion a wnaethai Demetrius i Jonathan, a phan fynegasant hwy iddo ef y rhyfeloedd a’r gwroldeb a wnaethai efe a’i frodyr, a’r boen a gymerasent hwy;

16Efe a ddywedodd, A gawn ni y fath ŵr â hwn? gan hynny nyni a’i gwnawn ef yn gyfaill ac yn gydymaith i ni.

17Ac am hyn efe a sgrifennodd ac a ddanfonodd lythyr ato ef o’r geiriau hyn, gan ddywedyd,

18Y mae’r brenin Alexander yn cyfarch ei frawd Jonathan.

19Ni a glywsom amdanat ti, dy fod yn ŵr galluog nerthol, ac yn gymwys i fod yn un o’n caredigion ni;

20Am hynny ni a’th osodasom di heddiw yn archoffeiriad ar dy bobl, ac i’th alw yn gyfaill i’r brenin; (ac efe a ddanfonodd wisg o borffor a choron o aur iddo ef;) ac i gymryd ein plaid ni, ac i gadw caredigrwydd â nyni.

21A Jonathan a wisgodd y wisg sanctaidd amdano, y seithfed mis o’r wythugeinfed flwyddyn, ar ŵyl y pebyll: ac efe a gasglodd lu, ac a baratôdd lawer o arfau.

22Pan glywodd Demetrius y geiriau hyn, efe a dristaodd yn ddirfawr, ac a ddywedodd,

23Paham y gwnaethom ni hyn, pan ragflaenai Alexander nyni, yn gwneuthur cyfeillach â’r Iddewon, i’w gryfhau ei hun?

24Minnau a sgrifennaf atynt eiriau comfforddus, ac a addawaf godiad a rhoddion iddynt, fel y byddont yn gymhorthwyr i mi.

25Ac efe a sgrifennodd y geiriau hyn atynt hwy; Y brenin Demetrius at bobl yr Iddewon, yn anfon annerch:

26Yn gymaint â chadw ohonoch amodau â nyni, a glynu yn ein cyfeillach ni, heb fyned at ein gelynion, hyn a glywsom, ac ni a lawenychasom.

27Am hynny parhewch, a byddwch ffyddlon i ni, ac ni a dalwn i chwi yn dda am y pethau yr ydych yn eu gwneuthur yn ein plaid ni.

28Ni a faddeuwn i chwi lawer o bethau dyledus, ac a roddwn i chwi roddion.

29Ac yn awr yr ydwyf fi yn eich rhyddhau chwi, a’r holl Iddewon er eich mwyn chwi yr ydwyf yn eu rhyddhau oddi wrth deyrnged, ac oddi wrth daledigaethau yr halen, ac oddi wrth dreth y goron;

30Ac oddi wrth yr hyn sydd i mi i’w gael am drydedd ran yr had, a hanner ffrwyth y coed; yr ydwyf fi yn eu maddau hwy o’r dydd heddiw allan, fel nas cymerer hwy o wlad Jwdea, nac o’r tair talaith a chwanegwyd ati, allan o Samaria a Galilea, o’r dydd heddiw allan yn dragywydd.

31Bydded Jerwsalem yn sanctaidd, ac yn rhydd, a’i holl derfynau, oddi wrth ddegymau ac ardrethion.

32Ac am y castell sydd yn Jerwsalem, yr ydwyf fi yn rhoddi i fyny fy meddiant arno, ac yn ei roddi ef i’r archoffeiriad, fel y gallo efe osod ynddo y cyfryw wŷr ag a ddewiso efe i’w gadw ef.

33Ac yr ydwyf fi yn rhad yn gollwng yn rhydd bob perchen enaid o ddyn o’r Iddewon a gaethgluded o wlad Jwdea i fan yn y byd o’m teyrnas i: a maddeued pawb o’m swyddogion eu teyrnged hwy, sef o’u hanifeiliaid hwy.

34A’r holl wyliau, a’r Sabothau, a’r lloerau newydd, y dyddiau arferedig, y tridiau ymlaen ac yn ôl yr ŵyl, a gânt fod yn ddyddiau o ryddid a maddeuant i’r holl Iddewon yn fy nheyrnas.

35Ac ni chaiff neb awdurdod i ymyrryd arnynt, nac i flino neb ohonynt am ddim.

36Ysgrifenner i lawr hefyd o’r Iddewon, i fod o lu y brenin, ynghylch dengmil ar hugain o wŷr, a rhodder iddynt roddion, fel y mae’n perthyn i bawb o lu y brenin.

37Gosoder hefyd ohonynt hwy rai yng nghestyll mawrion y brenin, a rhai o’r rhain a osodir ar negesau y brenin, y rhai ydynt o ymddiried: bydded hefyd y rhai fyddant arnynt hwy, ac yn dywysogion, ohonynt hwy eu hunain, a rhodiant yn eu cyfraith eu hun, megis y gorchmynnodd y brenin yn nhir Jwdea.

38Chwaneger hefyd at Jwdea y tair talaith a roddwyd o wlad Samaria at Jwdea, i’w cyfrif yn un, fel nad ufuddhaont i awdurdod neb arall ond yr archoffeiriad.

39Ptolemais a’i chyffiniau yr ydwyf fi yn ei rhoddi yn rhodd i’r cysegr sydd yn Jerwsalem, at gymesur draul y cysegr.

40Ac yr wyf fi yn rhoddi bob blwyddyn bymtheng mil o siclau arian allan o gyfrif y brenin o’r lleoedd a berthyn.

41A’r hyn sydd yng ngweddill heb i’r swyddwyr ei dalu i mewn, megis yn y blynyddoedd o’r blaen, o hyn allan rhoddant at waith y deml.

42Ac heblaw hyn y pum mil sicl o arian, y rhai a gymerasant hwy allan o raid y cysegr o’r cyfrif bob blwyddyn, yr ydys yn maddau y rhai hynny, am eu bod yn perthynu i’r offeiriaid sydd yn gwasanaethu.

43A phwy bynnag a ffoant i’r deml sydd yn Jerwsalem, neu i’w holl gyffiniau, a’r y mae y brenin yn dylu iddynt ardreth neu ddim arall, gadawer hwynt yn rhyddion, a’r hyn oll sy ganddynt yn fy nheyrnas.

44Ac fel yr adeilader ac y cyweirier gwaith y cysegr, fe a roddir traul hefyd o gyfrif y brenin.

45Felly y rhoddir traul o gyfrif y brenin i adeiladu caerau Jerwsalem, ac i’w chadarnhau o amgylch, ac i adeiladu y caerau yn Jwdea.

46Ond pan glybu Jonathan a’r bobl y geiriau hyn, ni roddasant goel iddynt, ac nis derbyniasant hwynt: canys hwy a gofiasant y mawr ddrygioni a wnaethai efe yn Israel, ac mor ddirfawr y cystuddiasai efe hwynt.

47Am hynny hwy a fuant fodlon i Alexander, oblegid efe a fuasai yn gyntaf yn crybwyll wrthynt am wir heddwch; a hwy a ryfelasant gydag ef eu holl ddyddiau.

48A’r brenin Alexander a gasglodd lu mawr, ac a wersyllodd yn erbyn Demetrius.

49Felly y ddau frenin a drawsant ynghyd mewn rhyfel, a llu Demetrius a ffodd: ac Alexander a’i herlidiodd ef, ac a’u gorchfygodd hwynt.

50Eithr y rhyfel a barhaodd yn frwd hyd fachlud haul; a lladdwyd Demetrius y dydd hwnnw.

51Ac Alexander a anfonodd genhadau at Ptolemeus brenin yr Aifft, gan ddywedyd yn ôl y geiriau hyn:

52Gan ddychwelyd ohonof i dir fy mrenhiniaeth, ac eistedd ar orseddfainc fy nhadau, a chael y dywysogaeth, a difetha Demetrius, ac ennill ein gwlad ni;

53Canys wedi cydio ohonof fi ag ef mewn cad, difethwyd ef a’i lu gennym ni, ac yr ydwyf yn eistedd ar orseddfainc ei deyrnas ef;

54Yn awr gan hynny gwnawn gyfeillach rhyngom; ac yr awron dod i mi dy ferch yn wraig, ac mi a fyddaf ddaw i ti, ac a roddaf i ti ac iddi hithau roddion addas i ti.

55A’r brenin Ptolemeus a atebodd, gan ddywedyd, Da yw’r dydd y dychwelaist i dir dy hynafiaid, ac yr eisteddaist ar orseddfainc eu brenhiniaeth hwynt.

56Ac yr awron mi a wnaf i ti yr hyn a sgrifennaist: eithr tyred i gyfarfod i Ptolemais, fel y gwelom ein gilydd; ac mi a fyddaf chwegrwn i ti, fel y dywedaist.

57Felly yr aeth Ptolemeus allan o’r Aifft, efe a Chleopatra ei ferch, a hwy a ddaethant i Ptolemais yn yr ail flwyddyn a thrigain a chant.

58A’r brenin Alexander a’i cyfarfu ef; yntau a roddes ei ferch Cleopatra iddo ef, ac a wnaeth ei neithior hi yn Ptolemais, mewn gogoniant mawr, fel y mae arfer brenhinoedd.

59A’r brenin Alexander a sgrifenasai at Jonathan i ddyfod i gyfarfod ag ef.

60Ac efe a aeth i Ptolemais yn ogoneddus, ac a gyfarfu â’r ddau frenin, ac a roddes arian ac aur iddynt hwy ac i’w caredigion, a rhoddion lawer, ac a gafodd ffafr yn eu golwg hwynt.

61A gwŷr ysgeler o Israel, sef gwŷr annuwiol, a ymgasglasant yn ei erbyn ef, i achwyn arno ef: ond ni wrandawodd y brenin arnynt.

62A’r brenin hefyd a archodd ddiosg Jonathan o’i ddillad, a’i wisgo â phorffor: a hwy a wnaethant felly.

63A’r brenin a wnaeth iddo eistedd gydag ef, ac a ddywedodd wrth ei dywysogion, Ewch allan gydag ef i ganoe y ddinas, a chyhoeddwch na achwyno neb yn ei erbyn ef am ddim mater, ac na flino neb ef am un achos.

64A phan welodd y rhai oedd yn achwyn arno ei ogoniant ef, y modd y cyhoeddasid, ac yntau wedi ei wisgo â phorffor, hwy a ffoesant oll.

65A’r brenin a’i hanrhydeddodd ef, ac a’i sgrifennodd ymysg ei gyfeillion pennaf, ac a’i gwnaeth yn dywysog, ac yn gyfrannog o’i lywodraeth ef.

66A Jonathan a ddychwelodd i Jerwsalem yn heddychlon ac yn llawen.

67Ac yn y bumed flwyddyn a thrigain a chant y daeth Demetrius, mab Demetrius, o Creta i dir ei hynafiaid.

68A’r brenin Alexander a glybu, ac a dristaodd yn ddirfawr; ac efe a ddychwelodd i Antiochia.

69A Demetrius a osododd Apolonius, yr hwn oedd ar Celo-Syria, yn ben-capten; ac efe a gasglodd lu mawr, ac a wersyllodd yn Jamnia, ac a anfonodd at Jonathan yr archoffeiriad, gan ddywedyd,

70Tydi yn unig yn anad neb ydwyt yn ymddyrchafu i’n herbyn; minnau a euthum yn watworgerdd ac yn waradwydd o’th achos di: a phaham yr wyt ti yn cymryd awdurdod i’n herbyn ni yn y mynyddoedd?

71Am hynny yn awr os ydwyt yn ymddiried yn dy gryfder dy hun, tyred i waered atom i’r maes, ac yno ymgystadlwn â’n gilydd: canys y mae gennyf fi lu y dinasoedd.

72Gofyn, a dysg pwy ydwyf fi a’r lleill sydd yn ein helpu ni; hwy a fynegant i ti nad oes fodd i’th droed di sefyll yn ein hwyneb ni: oblegid dy hynafiaid a yrrwyd i ffoi ddwywaith yn eu gwlad eu hun.

73Ac yr awr hon gan hynny ni elli di aros y fath feirch a llu yn y maes, lle nid oes na charreg, na maen, na lle i ffoi.

74A phan glybu Jonathan eiriau Apolonius, efe a gyffrôdd yn ei feddwl, ac a etholodd ddengmil o wŷr, ac a aeth allan o Jerwsalem; a’i frawd Simon a gyfarfu ag ef yn help iddo.

75Ac efe a wersyllodd yn erbyn Jope; eithr hwy a’i cadwasant ef allan o’r ddinas, am fod gwarcheidwaid Apolonius yn Jope.

76A hwy a ryfelasant yn ei herbyn hi; a’r rhai oedd o’r ddinas a ofnasant, ac a agorasant: a Jonathan a enillodd Jope.

77A phan glybu Apolonius hyn, efe a gymerodd dair mil o wŷr meirch, a llu mawr o wŷr traed, ac a aeth i Asotus, megis un ar ei daith: ac efe a ddaeth â’i lu i’r maes, am fod ganddo lawer o wŷr meirch, yn y rhai yr oedd efe’n ymddiried.

78Yna Jonathan a ddilynodd ar ei ôl ef i Asotus, lle y cydiodd y ddau lu mewn rhyfel o’i ôl ef.

79Ac Apolonius a adawsai fil o wŷr meirch mewn cynllwyn o’u hôl hwynt.

80A Jonathan a wybu fod cynllwyn o’i ôl ef; a hwy a amgylchasent ei lu ef, ac a daflasent bicellau yn erbyn y bobl, o fore hyd hwyr.

81A’r bobl a safodd fel yr archodd Jonathan; a’u meirch hwythau a flinasant.

82Simon hefyd a ddug allan ei lu yntau, ac a gydiodd â’r fyddin, canys y meirch a flinasent; a hwy a orchfygwyd ganddo, ac a ffoesant.

83A’r gwŷr meirch a wasgarwyd ar hyd y maes, ac a ffoesant i Asotus, ac a ddaethant i Bethdagon, i deml eu heilun, i fod yn gadwedig.

84A Jonathan a losgodd Asotus, a’r dinasoedd o’i hamgylch hi, ac a gymerodd eu hysbail hwynt: teml Dagon hefyd, a’r rhai a ffoesent iddi, a losgodd efe â thân.

85A’r rhai a laddwyd â’r cleddyf, ynghyd â’r rhai a losgwyd â thân, oedd hyd yn wyth mil o wŷr.

86A Jonathan a aeth oddi yno, ac a wersyllodd wrth Ascalon; a’r rhai oedd o’r ddinas a ddaethant allan i’w gyfarfod ef â gogoniant mawr.

87A Jonathan a ddychwelodd i Jerwsalem, a’r rhai oedd gydag ef, a chanddynt ysbail fawr.

88A phan glybu y brenin Alexander y pethau hyn, efe a roddes fwy o anrhydedd i Jonathan.

89Ac efe a anfonodd iddo fwcl aur, fel y mae yr arfer roddi i geraint y brenin; ac a roddes iddo Accaron a’i holl gyffiniau mewn meddiant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help