1Yna Sisinnes llywydd Celo-Syria a Phenice, a Sathrabusanes, a’u cyfeillion, yn canlyn gorchmynion y brenin Dareius,
2Yn ddyfal iawn a olygasant ar y gwaith sanctaidd, gan gynorthwyo henuriaid yr Iddewon, a llywodraethwyr y deml.
3Ac felly y gwaith sanctaidd a lwyddodd, pan ydoedd Aggeus a Sachareias y proffwydi yn proffwydo.
4Felly hwy a orffenasant y pethau hyn trwy orchymyn Arglwydd Dduw Israel, ac o gytundeb Cyrus a Dareius ac Artacsercses, brenhinoedd Persia.
5Ac fel hyn y gorffennwyd y tŷ sanctaidd ar y trydydd ar hugain o’r mis Adar, yn y chweched flwyddyn i Dareius frenin y Persiaid.
6A phlant Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, ac eraill o’r gaethglud a chwanegwyd atynt, a wnaethant yn ôl yr hyn sydd ysgrifenedig yn llyfr Moses.
7Ac i gysegru teml yr Arglwydd, hwy a offrymasant gant o fustych, deucant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn,
8A deuddeg gafr dros bechod holl Israel, yn ôl rhifedi penaethiaid llwythau Israel.
9A’r offeiriaid a’r Lefiaid a safasant wedi ymwisgo yn eu gwisgoedd yn ôl eu teuluoedd, yng ngwasanaeth Arglwydd Dduw Israel, yn ôl llyfr Moses; a’r porthorion hefyd wrth bob porth.
10A phlant Israel, gyda’r rhai a ddaethent allan o’r caethiwed, a gynaliasant y Pasg y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf, wedi i’r offeiriaid a’r Lefiaid ymsancteiddio.
11Ni sancteiddiasid holl feibion y gaethiwed ynghyd, eithr y Lefiaid a gydsancteiddiasid oll.
12Felly hwy a offrymasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain.
13Yna holl blant Israel, y rhai a ddaethent o’r caethiwed, a fwytasant, sef y rhai oll a’r a ymneilltuasent oddi wrth ffieidd-dra pobl y wlad, ac a geisiasant yr Arglwydd.
14A hwy a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod, gan lawenychu gerbron yr Arglwydd;
15Oherwydd iddo ef droi cyngor brenin Asyria tuag atynt hwy, i nerthu eu dwylo hwynt yng ngwaith Arglwydd Dduw Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
