1Arglwydd, yr wyf yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat.
2Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl-darth, a dyrchafiad fy nwylo fel yr offrwm prynhawnol.
3Gosod, ARGLWYDD, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.
4Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad i mi fwyta o’u danteithion hwynt.
5Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt.
6Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau; canys melys ydynt.
7Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear.
8Eithr arnat ti, O ARGLWYDD DDUW, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd.
9Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd.
10Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
