Y Salmau 44 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 44I’r Pencerdd, i feibion Cora, Maschil.

1 DUW, clywsom â’n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.

2Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a’u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a’u cynyddaist hwythau.

3Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt.

4Ti, DDUW, yw fy Mrenin: gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob.

5Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn.

6Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub.

7Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion.

8Yn NUW yr ymffrostiwn trwy y dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela.

9Ond ti a’n bwriaist ni ymaith, ac a’n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd.

10Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a’n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun.

11Rhoddaist ni fel defaid i’w bwyta; a gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd.

12Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt.

13Gosodaist ni yn warthrudd i’n cymdogion, yn watwargerdd ac yn wawd i’r rhai ydynt o’n hamgylch.

14Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd.

15Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a’m todd:

16Gan lais y gwarthruddwr a’r cablwr; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr.

17Hyn oll a ddaeth arnom; eto ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod.

18Ni throdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di;

19Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau, a thoi drosom â chysgod angau.

20Os anghofiasom enw ein DUW, neu estyn ein dwylo at dduw dieithr:

21Oni chwilia DUW hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon.

22Ie, er dy fwyn di y’n lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd.

23Deffro, paham y cysgi, O ARGLWYDD? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd.

24Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder?

25Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear.

26Cyfod yn gynhorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help