1Llyfr ymadroddion Tobit fab Tobiel fab Ananiel, fab Aduel, fab Gabael, o hil Asael, o lwyth Neffthali;
2Yr hwn yn amser Enemessar brenin yr Asyriaid a gaethgludwyd o Thisbe, yr hon sydd o’r tu deau i’r ddinas a elwir yn briodol Neffthali yn Galilea, goruwch Aser.
3Myfi Tobit a rodiais holl ddyddiau fy hoedl yn ffyrdd gwirionedd a chyfiawnder, ac a wneuthum elusennau lawer i’m brodyr, ac i’m cenedl, y rhai a aethant gyda mi i wlad yr Asyriaid, sef i Ninefe.
4A phan oeddwn i yn fy ngwlad fy hun yn nhir Israel, a mi eto yn ieuanc, cwbl o lwyth Neffthali fy nhad a giliodd oddi wrth dŷ Jerwsalem, yr hwn a ddewisasid o holl lwythau Israel, megis y gallai’r holl lwythau aberthu yno, lle yr oedd teml trigfa’r Goruchaf wedi ei chysegru a’i hadeiladu yn dragwyddol.
5A’r holl lwythau y rhai a gydgiliasant, a thŷ fy nhad innau Neffthali, a offrymasant i’r anner Baal:
6Eithr myfi fy hunan, yn ôl yr ordinhad tragwyddol a orchmynasid i holl Israel, a euthum yn fynych i Jerwsalem ar y gwyliau nodedig, gan ddwyn gyda mi gynffrwyth a degwm cynnydd yr anifeiliaid, a’r cyngnaif, y rhai a roddais i i’r offeiriaid, sef meibion Aaron, y rhai oedd yn gweini wrth yr allor.
7Y degwm cyntaf mi a’i rhoddais i feibion Aaron, y rhai oedd weinidogion yn Jerwsalem: yr ail degwm mi a’i gwerthais, ac a euthum, ac a’i gweriais yn Jerwsalem bob blwyddyn:
8A’r trydydd mi a’i rhoddais i’r sawl y gweddai, megis y gorchmynasai Debora mam fy nhad i mi: canys gadawsid fi yn amddifad o’m tad.
9Wedi i mi ddyfod mewn oedran gŵr, mi a briodais Anna, gwraig o dylwyth fy nhad, ac a enillais ohoni hi Tobeias.
10A phan y’n caethgludwyd yn garcharorion i Ninefe, fy holl frodyr, ac eraill o’m cenedl, a fwytasant fara’r cenhedloedd:
11Er hynny myfi a’m cedwais fy hun heb fwyta;
12Am fy mod yn meddwl am Dduw o wir ewyllys fy nghalon.
13A’r Goruchaf a roddes i mi ffafr a hawddgarwch gerbron Enemessar, fel y bûm oruchwyliwr iddo.
14Felly mi a euthum i Media, ac a adewais ddeg talent o arian yn llaw Gabael brawd Gabrias, yn Rages dinas ym Media.
15Ac wedi marw Enemessar, Sennacherib ei fab a deyrnasodd yn ei le ef; yr hwn y rhwystrodd ei ffyrdd, fel na ellais i mwy ymdaith i dir Media.
16Eithr yn nyddiau Enemessar mi a wneuthum lawer o elusennau i’m brodyr, ac a roddais fy mara i’r newynog,
17A’m dillad i’r noethion: ac os gwelwn neb o’m cenedl wedi ei ladd, a’i fwrw ynghylch muriau Ninefe, mi a’i claddwn ef.
18Ac os lladdai Sennacherib y brenin, wrth ddyfod ar ffoi o Jwdea yr un, mi a’i claddwn ef yn ddirgel: canys llawer a laddodd efe yn ei wŷn: a phan geisiai’r brenin y cyrff, ni byddent i’w cael.
19Yna aeth un o’r Ninefeaid, ac a ddangosodd i’r brenin fy mod i yn eu claddu hwynt, a minnau a ymguddiais; a phan wybûm fod yn fy ngheisio i’m lladd, mi a giliais ymaith rhag ofn.
20Yna y ducpwyd fy holl dda byd; ac ni adawyd i mi ddim, ond Anna fy ngwraig a Thobeias fy mab.
21A chyn pen pymtheng niwrnod a deugain, dau o’i feibion a’i lladdasant ef, ac a ffoesant i fynyddoedd Ararath: a Sarchedonus ei fab a deyrnasodd yn ei le ef; ac a osodes Achiacarus fab Anael fy mrawd yn olygwr ar holl gyfrifon ei dad, ac ar ei holl oruchwyliaeth.
22Ac Achiacarus a eiriolodd drosof fi, oni chefais ddyfod adref i Ninefe: canys gosodasai Sarchedonus Achiacarus yn nesaf iddo ei hun; ac yr oedd efe yn drulliad, a seinedydd, goruchwyliwr, a chyfrifydd iddo: ac yr oedd efe yn nai fab brawd i minnau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.