1Molwch yr ARGLWYDD. Clodforaf yr ARGLWYDD â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa.
2Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant.
3Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr ARGLWYDD.
5Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd.
6Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr:
8Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder.
9Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef.
10Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
