1Yna Judith a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a osododd ludw ar ei phen, ac a ddiosgodd y sachliain â’r hwn yr oedd hi wedi ymwisgo: ac ynghylch yr amser yr offrymwyd yr arogl-darth yn Jerwsalem, o fewn tŷ’r Arglwydd, y prynhawngwaith hwnnw, yno Judith a waeddodd â llef uchel, ac a ddywedodd,
2O Arglwydd Dduw fy nhad Simeon, i’r hwn y rhoddaist gleddyf i ddial ar y dieithriaid, y rhai a agorasant groth y forwyn trwy halogedigaeth, ac a noethasant y morddwyd trwy waradwydd, ac a halogasant forwyndod trwy warth; canys tydi a archesit na wneid felly, ac eto hwy a wnaethant felly:
3Oherwydd paham y rhoddaist ti eu tywysogion hwynt i’r lladdfa, a hwy wedi eu twyllo a olchasant eu gwely trwy waed; a thithau a drewaist y gweision gyda’r penaethiaid, a’r penaethiaid ar eu gorseddfeydd,
4Ac a roddaist eu gwragedd hwynt yn ysglyfaeth, a’u merched mewn caethiwed, a’u holl anrhaith yn gyfran i feibion cu gennyt; y rhai oedd yn gresynu o’th resyndod di, ac yn ffiaidd ganddynt halogedigaeth eu gwaed, ac a alwasant arnat ti yn gynorthwywr. O Dduw, O fy Nuw, gwrando arnaf fi yr hon sy weddw;
5Canys ti a wnaethost nid yn unig y pethau hynny, eithr hefyd y pethau a ddigwyddodd o’r blaen, a’r rhai a fyddant rhag llaw; a thi a feddyliaist am y pethau presennol, a’r pethau a ddeuant rhag llaw.
6A’r pethau yr wyt ti yn eu hamcanu sy bresennol, ac yn dywedyd, Wele ni yma: oherwydd dy holl ffyrdd di sy barod, a’th farnedigaethau yn dy ragwybodaeth.
7Wele yr Asyriaid wedi amlhau trwy eu nerth, ymddyrchafasant yn eu meirch a’u marchogion, ymogoneddasant yng nghadernid y gwŷr traed, ymddiriedasant i’r darian, ac i’r bwa, ac i’r daflffon: ac nid ydynt yn gwybod mai tydi, O Arglwydd, sydd yn torri’r rhyfeloedd; yr Arglwydd yw dy enw.
8Rhwyga di eu cadernid hwynt â’th nerth, a dryllia eu cryfder â’th ddicllonedd: canys y maent hwy wedi bwriadu halogi dy gysegr, a difwyno’r tabernacl lle y mae dy enw gogoneddus yn gorffwys, a bwrw i lawr ag arfau gyrn dy allor di.
9Edrych ar eu balchder hwynt; anfon dy ddigofaint ar eu pennau: dod yn fy llaw i, yr hon ydwyf weddw, y nerth a feddyliais i.
10Taro di, trwy ddichell fy ngwefusau, y gwas gyda’r tywysog, a’r tywysog gyda’i was: tor di eu huchder hwynt trwy law benyw.
11Canys nid yw dy nerth di mewn lliaws, na’th allu yn y rhai cedyrn: eithr tydi wyt Arglwydd y rhai gostyngedig, a chynorthwywr y rhai bychain, amddiffynnwr y gweiniaid, ymgeleddwr y rhai gwrthodedig, achubwr y rhai anobeithiol.
12Yn ddiamau ti yw Duw fy nhad i, a Duw etifeddiaeth Israel; Llywiawdwr nefoedd a daear, Creawdwr y dyfroedd, Brenin pob creadur, gwrando fy ngweddi,
13A chaniatâ i’m hymadrodd a’m dichell i, fod yn archoll ac yn anaf yn eu herbyn hwy, y rhai sydd yn amcanu pethau ysgeler yn erbyn dy dystiolaeth di, a’th dŷ sanctaidd, a chopa Seion, a thŷ meddiant dy feibion.
14A gwna i bob cenedl a llwyth gydnabod mai tydi yw Duw pob gallu a chadernid, ac nad oes neb arall yn amddiffynnwr i genedl Israel ond tydi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.