1 Cronicl 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn a’th gnawd di ydym ni.

2Doe hefyd, ac echdoe, pan ydoedd Saul yn frenin, tydi oedd yn arwain Israel i mewn ac allan: a dywedodd yr ARGLWYDD dy DDUW wrthyt, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel.

3A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr ARGLWYDD; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy law Samuel.

4A Dafydd a holl Israel a aeth i Jerwsalem, hon yw Jebus, ac yno y Jebusiaid oedd drigolion y tir.

5A thrigolion Jebus a ddywedasant wrth Dafydd, Ni ddeui i mewn yma. Eto Dafydd a enillodd dŵr Seion, yr hwn yw dinas Dafydd.

6A dywedodd Dafydd, Pwy bynnag a drawo y Jebusiaid yn gyntaf, efe a fydd yn bennaf, ac yn dywysog. Yna yr esgynnodd Joab mab Serfia yn gyntaf, ac a fu bennaf.

7A thrigodd Dafydd yn y tŵr: oherwydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd.

8Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i’r ddinas.

9A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy, ac ARGLWYDD y lluoedd oedd gydag ef.

10Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn oedd gan Dafydd, yn ymgryfhau gydag ef yn ei deyrnas, a chyda holl Israel, i’w wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

11A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd; Jasobeam mab Hachmoni, pen y capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo.

12Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o’r tri chadarn.

13Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim; a’r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o’r maes yn llawn haidd, a’r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid.

14A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a’i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr ARGLWYDD hwynt ag ymwared mawr.

15A thri o’r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i’r graig at Dafydd, i ogof Adulam; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.

16A Dafydd yna ydoedd yn yr amddiffynfa, a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethlehem.

17A Dafydd a flysiodd, ac a ddywedodd, O pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth?

18A’r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant ac a’i dygasant i Dafydd: ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef, ond efe a’i diodoffrymodd ef i’r ARGLWYDD:

19Ac efe a ddywedodd, Na ato fy NUW i mi wneuthur hyn. A yfaf fi waed y dynion hyn, a beryglasant eu heinioes? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef: am hynny ni fynnai efe ei yfed. Y tri chadarn a wnaethant hyn.

20Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf o’r tri. A hwn a ysgydwodd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo y bu enw ymhlith y tri.

21O’r tri, anrhydeddusach na’r ddau eraill, a thywysog iddynt, oedd efe: ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf.

22Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, mawr ei weithredoedd: efe a laddodd ddau o gedyrn Moab; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira.

23Ac efe a laddodd Eifftddyn, gŵr pum cufydd o fesur; ac yn llaw yr Eifftddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd; ac yntau a aeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn, ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun.

24Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada, ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn.

25Wele, anrhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain, ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe: a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard.

26A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab, Elhanan mab Dodo o Bethlehem,

27Sammoth yr Harodiad, Heles y Peloniad,

28Ira mab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anthothiad,

29Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad,

30Maharai y Netoffathiad, Heled mab Baana y Netoffathiad,

31Ithai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin, Benaia y Pirathoniad,

32Hurai o afonydd Gaas, Abiel yr Arbathiad,

33Asmafeth y Baharumiad, Eliahba y Saalboniad,

34Meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan mab Sageth yr Harariad,

35Ahïam mab Sachar yr Harariad, Eliffal mab Ur,

36Heffer y Mecherathiad, Ahïa y Peloniad,

37Hesro y Carmeliad, Naarai mab Esbai,

38Joel brawd Nathan, Mibhar mab Haggeri,

39Selec yr Ammoniad, Naharai y Berothiad, yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfia,

40Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,

41Ureias yr Hethiad, Sabad mab Ahlai,

42Adina mab Sisa y Reubeniad, pennaeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg ar hugain,

43Hanan mab Maacha, a Josaffat y Mithniad,

44Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel, meibion Hothan yr Aroeriad,

45Jediael mab Simri, a Joha ei frawd ef, y Tisiad,

46Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josafia, meibion Elnaam, ac Ithma y Moabiad,

47Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help