Lefiticus 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.

2Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe.

3Neu pan gyffyrddo ag aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o’i blegid, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw.

4Neu os dyn a dwng, gan draethu â’r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn.

5A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo:

6A dyged i’r ARGLWYDD ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o’r praidd, oen neu fyn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod.

7Ond os ei law ni chyrraedd werth oen, dyged i’r ARGLWYDD, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn aberth dros bechod, a’r llall yn boethoffrwm.

8A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith.

9A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a gwasger y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod.

10A’r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ôl y ddefod: a’r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.

11Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.

12A dyged hynny at yr offeiriad: a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i’r ARGLWYDD. Dyma aberth dros bechod.

13A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o’r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i’r offeiriad y gweddill, megis o’r bwyd-offrwm.

14A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

15Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gysegrwyd i’r ARGLWYDD; yna dyged i’r ARGLWYDD dros ei gamwedd, hwrdd perffaith-gwbl o’r praidd, gyda’th bris di o siclau arian, yn ôl sicl y cysegr, yn aberth dros gamwedd.

16A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.

17Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchmynion yr ARGLWYDD, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, eto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg.

18A dyged hwrdd perffaith-gwbl o’r praidd, gyda’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei amryfusedd a gamgymerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo.

19Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddiau yn erbyn yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help