1Doethineb a’i cenmyl ei hun, ac a orfoledda ymysg ei phobl.
2Hi a egyr ei genau yng nghynulleidfa’r Goruchaf, ac a orfoledda gerbron ei allu ef.
3Mi a ddeuthum o enau’r Goruchaf, ac a orchuddiais y ddaear fel niwl.
4Mi a breswyliais mewn lleoedd uchel; a’m gorseddfainc i sy mewn colofn o gwmwl.
5Myfi a amgylchais gylch y nefoedd fy hunan, ac a rodiais yng ngwaelod y dyfnder.
6Cefais feddiant o donnau’r môr, ac o’r holl dir, ac o bob pobl a chenedl.
7A chyda’r rhai hyn oll y ceisiais i orffwystra; fel y cyfanheddwn yn etifeddiaeth rhyw un.
8Yna y’m gorchmynnodd Creawdydd pob peth, a’r hwn a’m creodd innau a wnaeth i’m pabell orffwyso, ac a ddywedodd, Preswylia yn Jacob, a chymer etifeddiaeth yn Jerwsalem.
9Efe a’m creodd i o’r dechreuad cyn y byd; ac ni phallaf fi byth.
10Mi a wasanaethais ger ei fron ef yn y babell sanctaidd: ac felly y’m sicrhawyd yn Seion.
11Gwnaeth efe hefyd i mi orffwyso yn y dinnas sanctaidd; ac yn Jerwsalem y mae fy ngally i.
12Ac mi a wreiddiais ymysg pobl anrhydeddus, sef yn rhan yr Arglwydd, a’i etifeddiaeth.
13Fel cedyrn Libanus y dyrchafwyd fi, ac fel cypreswydden ym mynyddoedd Hermon.
14Fel palmwydden yn Engadi y dyrchafwyd fi, ac fel planhigyn rhos yn Jericho, fel olewydden hardd mewn maes teg, ac fel planwydden wrth ddyfroedd y cynyddais.
15Fel sinamwn, ac fel swp o beraroglau, ac megis myr dewisol, y rhoddais fy mherarogl, fel galbanum, ac onics, a storacs, ac fel tarth thus yn y babell.
16Mi a estynnais fy nghanghennau fel terebinthus; a’m canghennau sydd ganghennau gogoniant a gras.
17Fel gwinwydden y tarddodd perarogl ohonof fi; a ffrwyth gogoniant a chyfoeth yw fy mlodau.
18Mam cariad da, ac ofn, a gwybodaeth, a gobaith sanctaidd, ydwyf fi: am hynny, gan fy mod yn dragwyddol, myfi a roddir i’m holl blant, y rhai a enwyd ganddo ef.
19Deuwch ataf fi, y rhai ydych yn fy chwenychu, a llanwer chwi â’m ffrwythau:
20Canys melysach yw fy nghoffadwriaeth na’r mêl, a’m hetifeddiaeth na’r dil mêl.
21Bydd ar y rhai a’m bwytânt i newyn eto; ac ar y rhai a’m hyfant i y bydd syched eto.
22Ni waradwyddir byth yr hwn a ufuddhao i mi; ac ni phecha y rhai a weithiant trwof fi.
23Llyfr cyfamod y goruchaf Dduw yw hyn oll, sef y gyfraith, yr hon a orchmynnodd Moses i ni yn etifeddiaeth i gynulleidfaoedd Jacob.
24Na phellwch fod yn gryfion yn yr Arglwydd; fel y cadarnhao efe chwi, glynwch wrtho ef: canys yr hollalluog Arglwydd sydd Dduw yn unig, ac nid oes Iachawdwr ond efe.
25Yr hwn â’i ddoethineb sydd yn llenwi pob peth fel Pison, ac fel Tigris yn nyddiau y ffrwythau newydd.
26Yr hwn sydd yn llenwi deall fel Ewffrates, ac fel yr Iorddonen yn amser cynhaeaf.
27Yr hwn sydd yn dangos addysg gwybodaeth fel goleuni, ac fel Geon yn nyddiau cynhaeaf gwin.
28Ni adnabu y dyn cyntaf hi yn berffaith: felly nid olrhain y diwethaf hi allan.
29Oblegid y mae ei meddyliau hi yn helaethach na’r môr, a’i chyngor yn ddyfnach na’r dyfnder mawr.
30Yr ydwyf fi doethineb fel ffos yn dyfod o afon, ac fel aber yn myned i ardd.
31Mi a ddywedais, Dyfrhaf fy ngardd orau, a mwydaf fy ngarddwely yn dda: ac wele, fe aeth fy nant yn afon, a’m hafon yn fôr.
32Myfi a wnaf i addysg oleuo fel y bore, ac a’i dangosaf hi ymhell:
33Oherwydd myfi a dywalltaf athrawiaeth fel proffwydoliaeth, ac mi a’i gadawaf hi i’r holl oesoedd yn dragwyddol.
34Gwelwch nad trosof fy hunan y cymerais i boen, eithr dros bawb a geisiant ddoethineb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.