Y Salmau 102 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 102Gweddi’r cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn gerbron yr ARGLWYDD

1Arglwydd, clyw fy ngweddi, a deled fy llef atat.

2Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust ataf: yn y dydd y galwyf, brysia, gwrando fi.

3Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg, a’m hesgyrn a boethasant fel aelwyd.

4Fy nghalon a drawyd, ac a wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fwyta fy mara.

5Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd.

6Tebyg wyf i belican yr anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch.

7Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y tŷ.

8Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn.

9Canys bwyteais ludw fel bara, a chymysgais fy niod ag wylofain;

10Oherwydd dy lid di a’th ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr.

11Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais.

12Tithau, ARGLWYDD, a barhei yn dragwyddol, a’th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

13Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth.

14Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi.

15Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr ARGLWYDD, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant.

16Pan adeilado yr ARGLWYDD Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant.

17Efe a edrych ar weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.

18Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr ARGLWYDD.

19Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr ARGLWYDD a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear;

20I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau;

21I fynegi enw yr ARGLWYDD yn Seion, a’i foliant yn Jerwsalem:

22Pan gasgler y bobl ynghyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr ARGLWYDD.

23Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau.

24Dywedais, Fy NUW, na chymer fi ymaith yng nghanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.

25Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.

26Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir.

27Tithau yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni ddarfyddant.

28Plant dy weision a barhânt, a’u had a sicrheir ger dy fron di.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help