1Simon yr archoffeiriad, mab Oneias, yr hwn yn ei fywyd a gyfododd y tŷ, ac yn ei ddyddiau a sicrhaodd y bobl,
2Efe a barodd o’r sylfaen adeiladu’r uchder dauddyblyg, a’r fagwyr uchel, o amgylch y deml.
3Yn ei ddyddiau ef, y noe i dderbyn dwfr, yr hon oedd o’i hamgylch fel y môr, a wisgwyd â dalennau pres.
4Efe a gymerth ofal dros y bobl rhag eu difetha, ac a gadarnhaodd y ddinas erbyn gwarchae arni.
5Mor ogoneddus oedd efe yng nghanol y bobl, wrth ddyfod allan o’r tŷ dan orchudd!
6Fel y seren ddydd ymysg y cymylau, ac fel y lleuad yn ei llawnllonaid, yr ydoedd efe;
7Fel yr haul yn tywynnu ar deml y Goruchaf, ac fel yr enfys yn llewyrchu yn y cymylau disglair:
8Ac fel blodau rhos pan fyddant newydd; fel lili wrth aberoedd dyfroedd, a blagur y pren thus yn amser haf;
9Fel tân a thus mewn thuser, fel llestr o aur wedi ei wneuthur o’r un darn, a’i harddu â phob maen gwerthfawr;
10Fel olewydden deg ffrwythlon, ac fel cypreswydden wedi tyfu i’r awyr;
11Pan gymerai efe y wisg ogoneddus, a phan wisgai efe yr hyfrydwch perffaith, wrth fyned i fyny at yr allor sanctaidd yn anrhydeddus.
12Pan gymerai efe yr aelodau o law’r offeiriaid, efe a safai wrth aelwyd yr allor, â’i frodyr o’i amgylch, fel cedrwydden yn Libanus, a hwy a’i hamgylchent ef fel canghennau palmwydd.
13Felly y byddai meibion Aaron oll yn eu gwychder, ac offrwm yr Arglwydd yn eu dwylo, o flaen holl gynulleidfa Israel.
14Gan orffen y gwasanaeth wrth yr allor, i wneuthur offrwm yr Hollalluog goruchaf yn hardd,
15Efe a estynnai ei ddwylo at y ddiod-offrwm, ac a gymysgai beth o’r gwin, ac a’i tywalltai wrth droed yr allor yn arogl peraidd, i’r hwn sydd oruchaf Frenin ar bawb.
16Yna meibion Aaron a waeddent ac a seinient mewn utgyrn tawdd, ac a wnaent sŵn mawr eglur, yn goffadwriaeth o flaen y Goruchaf.
17Yna yr holl bobl a gydsyrthient i lawr ar eu hwynebau ar frys, i addoli eu Harglwydd, y goruchaf Dduw hollalluog.
18Y cantorion hefyd a glodforent â’u lleisiau, ac a wnaent gynghanedd felys trwy eu hamryw seiniau.
19A’r bobl a ymbilient â’r Arglwydd goruchaf trwy weddi gerbron y Trugarog, nes cyflawni anrhydedd yr Arglwydd, a gorffen ei wasanaeth ef.
20Yna efe a ddisgynnai, ac a ddyrchafai ei ddwylo ar holl gynulleidfa meibion Israel, i draethu bendith yr Arglwydd â’i wefusau, ac i ymorfoleddu yn ei enw ef.
21A hwy a ymgryment i addoli eilwaith, i dderbyn y fendith gan y Goruchaf.
22Yn awr gan hynny bendigwch Dduw pob peth, yr hwn yn unig a wna ryfeddod ym mhob man, yr hwn a ddyrchafa ein dyddiau ni o’r groth, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur â nyni yn ôl ei drugaredd.
23Caniataed efe i ni hyfrydwch calon, a bod heddwch yn ein dyddiau ni yn Israel byth,
24A chadarnhau ohono ffyddlondeb ei drugaredd i ni, a’n gwaredu ni yn ei amser ef.
25Dwy genhedlaeth sy flin gan fy enaid, a’r drydedd nid yw genhedlaeth:
26Y rhai a eisteddant ym mynydd Samaria, a’r rhai a breswyliant Palesteina, a’r bobl ynfyd y rhai a drigant yn Sichem.
27Jesus mab Sirach o Jerwsalem a sgrifennodd yn y llyfr hwn athrawiaeth deall a gwybodaeth, yr hwn a lawiodd ddoethineb o’i galon.
28Gwyn ei fyd yr hwn a ymgynefino â’r rhai hyn; a’r hwn a’u gosodo hwynt yn ei galon a fydd doeth.
29Oblegid os gwna efe y pethau hyn, efe a fydd nerthol i bob peth: canys goleuni’r Arglwydd a fydd yn gyfarwyddyd iddo ef, ac i’r rhai duwiol y rhoddes efe ddoethineb. Bendigedig fyddo yr Arglwydd byth. Felly y byddo, felly y byddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.