1Gwell yw bod heb blant, a bod gennym rinwedd: oblegid anfarwol yw y coffa amdani, a hysbys i Dduw a dynion yw hi.
2Hwy a’i dilynant hi pan fyddo presennol, ac a’i dymunant hi pan elo ymaith; y mae hi yn gorfoleddu, wedi ei choroni byth; wedi ennill y mae wrth ymdrechu am ddihalogedig wobrau.
3Eithr tylwythog dyrfa’r annuwiol ni bydd fuddiol; ni ddwfn wreiddia chwaith yr hon sydd yn dyfod o blanhigion bastardaidd, ac ni esyd sylfaen sicr;
4Oblegid er iddynt dyfu dros amser yn wrysg; gwynt a’u symud hwynt, gan eu bod yn tyfu yn weiniaid, a’u diwreiddio gan nerth y gwyntoedd.
5Yr amherffaith ganghennau a dorrir ymaith, a’u ffrwyth hwynt a fydd di-fudd, heb fod yn aeddfed i’w fwyta, nac yn gymwys i ddim.
6Oherwydd y plant a genhedler yn y gwely annheilwng sy dystion o anwiredd yn erbyn eu rhieni, pan holer hwynt.
7Eithr os diweddir y cyfiawn yn gynnar, efe a fydd mewn esmwythdra er hynny.
8Oherwydd nid yr hir-hoedlog yw’r henaint parchedig, na’r hon a fesurir wrth rifedi blynyddoedd:
9Eithr doethineb sy benllwydni i ddynion; a henaint oedrannus yw buchedd ddihalog.
10Efe a ryngodd fodd i Dduw, ac a hoffwyd ganddo: ac efe, yn byw ymysg pechaduriaid, a fudwyd ymaith.
11Efe a gipiwyd ymaith rhag i ddrygioni newidio ei feddwl ef, neu i dwyll dwyllo ei enaid ef.
12Oblegid hudoliaeth oferedd a dywylla bethau da; ac anwadalwch chwant a symud feddwl difalais.
13Efe, wedi ei ddiweddu yn fuan, a gyflawnodd hir amser;
14Canys cu oedd ei enaid ef gan yr Arglwydd: am hynny yr aeth efe ar frys o fysg drygioni.
15Y mae’r bobl yn gweled hyn, ac heb ddeall nac ystyried fod gras a thrugaredd i’w saint ef, ac ymgeledd i’w etholedigion.
16Pan fyddo’r cyfiawn marw, y mae efe yn rhoddi barn yn erbyn y rhai annuwiol byw; felly y mae yr ieuenctid a ddiweddir yn fuan, yn erbyn hirhoedlog henaint yr anghyfiawn:
17Oblegid hwy a gânt weled diwedd y doeth, ac ni feddyliant beth a amcanasant iddo, ac i ba beth y cadwodd yr Arglwydd ef yn ddiogel.
18Hwy a’i gwelant ef, ac a’i diystyrant: eithr yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt, a hwy a fyddant yn gelain amharchedig, ac yn waradwyddus ymysg y meirw byth.
19Canys efe a’u ddryllia hwynt i lawr yn ddi-drwst, ac a’u sigl hwynt o’r sylfaen, a hwy a anrheithir hyd yr eithaf, ac a fyddant mewn gofid; a’u coffadwriaeth hwynt a dderfydd.
20Hwy a ddeuant yn ofnus trwy feddwl am eu pechodau; a’u hanwireddau a’u ceryddant hwy o flaen eu hwynebau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
