1A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2Mab dyn, traetha ddychymyg, a diarheba ddihareb wrth dŷ Israel,
3A dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Eryr mawr, mawr ei adenydd, hir ei asgell, llawn plu, yr hwn oedd iddo amryw liwiau, a ddaeth i Libanus, ac a gymerth frigyn uchaf y gedrwydden.
4Torrodd frig ei blagur hi, ac a’i dug i dir marsiandïaeth: yn ninas marchnadyddion y gosododd efe ef.
5A chymerth o had y tir, ac a’i bwriodd mewn maes ffrwythlon; efe a’i gosododd ef wrth ddyfroedd lawer, ac a’i plannodd fel helygen.
6Ac efe a dyfodd, ac a aeth yn winwydden wasgarog, isel o dwf, a’i changau yn troi ato ef; a’i gwraidd oedd dano ef: felly yr aeth yn winwydden, ac y dug geinciau, ac y bwriodd frig.
7Yr oedd hefyd ryw eryr mawr, mawr ei esgyll, ac â llawer o blu: ac wele y winwydden hon yn plygu ei gwraidd tuag ato ef, ac yn bwrw ei cheinciau tuag ato, i’w dyfrhau ar hyd rhigolau ei phlaniad.
8Mewn maes da wrth ddyfroedd lawer y planasid hi, i fwrw brig, ac i ddwyn ffrwyth, fel y byddai yn winwydden hardd-deg.
9Dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW: A lwydda hi? oni thyn efe ei gwraidd hi? ac oni thyr efe ei ffrwyth hi, fel y gwywo? sych holl ddail ei brig, ac nid trwy fraich mawr, na thrwy bobl lawer, i’w thynnu hi o’i gwraidd.
10Ie, wele, wedi ei phlannu, a lwydda hi? gan wywo oni wywa, pan gyffyrddo gwynt y dwyrain â hi? yn rhigolau ei thwf y gwywa.
11Daeth hefyd air yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
12Dywed yr awr hon wrth y tŷ gwrthryfelgar, Oni wyddoch beth yw hyn? dywed, Wele, daeth brenin Babilon i Jerwsalem, ac efe a gymerodd ei brenin hi, a’i thywysogion, ac a’u dug hwynt gydag ef i Babilon:
13Ac a gymerodd o’r had brenhinol, ac a wnaeth ag ef gyfamod, ac a’i dug ef dan lw; cymerodd hefyd gedyrn y wlad:
14Fel y byddai y deyrnas yn isel, heb ymddyrchafu, eithr sefyll ohoni trwy gadw ei gyfamod ef.
15Ond gwrthryfelodd i’w erbyn, gan anfon ei genhadau i’r Aifft, fel y rhoddid iddo feirch, a phobl lawer. A lwydda efe? a ddianc yr hwn a wnelo hyn? neu a ddiddyma efe y cyfamod, ac a waredir ef?
16Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, yng nghartref y brenin yr hwn a’i gwnaeth ef yn frenin, yr hwn y diystyrodd efe ei lw, a’r hwn y diddymodd efe ei gyfamod, gydag ef y bydd efe farw yng nghanol Babilon.
17Ac ni wna Pharo â’i lu mawr, ac â’i fintai luosog, ddim gydag ef mewn rhyfel, wrth godi clawdd, ac wrth adeiladu cestyll, i dorri ymaith lawer einioes.
18Gan ddiystyru ohono y llw, gan ddiddymu y cynghrair, (canys wele, efe a roddasai ei law,) a gwneuthur ohono hynny oll, ni ddianc.
19Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Fel mai byw fi, fy llw yr hwn a ddiystyrodd efe, a’m cyfamod yr hwn a ddiddymodd efe, hwnnw a roddaf fi ar ei ben ef.
20Canys taenaf fy rhwyd arno, ac efe a ddelir yn fy rhwyd, a dygaf ef i Babilon, ac yno yr ymddadleuaf ag ef am ei gamwedd a wnaeth i’m herbyn.
21A’i holl ffoaduriaid ynghyd â’i holl fyddinoedd a syrthiant gan y cleddyf, a’r gweddill a wasgerir gyda phob gwynt; fel y gwypoch mai myfi yr ARGLWYDD a’i lleferais.
22Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Mi a gymeraf hefyd frig y gedrwydden uchel, ac a’i gosodaf: o frig ei blagur y torraf un tyner, a mi a’i plannaf ar fynydd uchel a dyrchafedig.
23Ar fynydd uchelder Israel y plannaf ef: ac efe a fwrw frig, ac a ddwg ffrwyth, ac a fydd yn gedrwydden hardd-deg: a phob aderyn o bob rhyw asgell a drig dani; dan gysgod ei changhennau y trigant.
24A holl brennau y maes a gânt wybod mai myfi yr ARGLWYDD a ostyngais y pren uchel, ac a ddyrchefais y pren isel; a sychais y pren ir, ac a ireiddiais y pren crin: myfi yr ARGLWYDD a’i lleferais, ac a’i gwneuthum.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.