Y Salmau 92 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 92Salm neu Gân ar y dydd Saboth.

1Da yw moliannu yr ARGLWYDD, a chanu mawl i’th enw di, y Goruchaf:

2A mynegi y bore am dy drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau;

3Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol.

4Canys llawenychaist fi, O ARGLWYDD, â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf.

5Mor fawredig, O ARGLWYDD, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau.

6Gŵr annoeth ni ŵyr, a’r ynfyd ni ddeall hyn.

7Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i’w dinistrio byth bythoedd.

8Tithau, ARGLWYDD, wyt ddyrchafedig yn dragywydd.

9Canys wele, dy elynion, O ARGLWYDD, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd.

10Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y’m heneinir.

11Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn.

12Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus.

13Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a flodeuant yng nghynteddoedd ein DUW.

14Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant:

15I fynegi mai uniawn yw yr ARGLWYDD fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help