Deuteronomium 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad y mae ARGLWYDD DDUW eich tadau yn ei rhoddi i chwi.

2Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihewch ddim ohono ef, gan gadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich DUW, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi.

3Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD am Baal-peor; oblegid pob gŵr a’r a aeth ar ôl Baal-peor, yr ARGLWYDD dy DDUW a’i difethodd ef o’th blith di.

4Ond chwi y rhai oeddech yn glynu wrth yr ARGLWYDD eich DUW, byw ydych heddiw oll.

5Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD fy NUW i mi; i wneuthur ohonoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu.

6Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a’ch deall chwi, yng ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon.

7Oblegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae DUW iddi yn nesáu ati, fel yr ARGLWYDD ein DUW ni, ym mhob dim a’r y galwom arno?

8A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddiw ger eich bron chwi?

9Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio ohonynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i’th feibion, ac i feibion dy feibion:

10Sef y dydd y sefaist gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW yn Horeb, pan ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion.

11A nesasoch, a safasoch dan y mynydd; a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmwl, a thywyllwch dudew.

12A’r ARGLWYDD a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddech yn gweled llun dim, ond llais.

13Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i’w wneuthur, sef y dengair; ac a’u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.

14A’r ARGLWYDD a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau, i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu.

15Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrthych yn Horeb, o ganol y tân,)

16Rhag ymlygru ohonoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd un ddelw, llun gwryw neu fenyw,

17Llun un anifail a’r sydd ar y ddaear, llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr,

18Llun un ymlusgiad ar y ddaear, llun un pysgodyn a’r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear;

19Hefyd rhag dyrchafu ohonot dy lygaid tua’r nefoedd, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr, sef holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymu iddynt, a gwasanaethu ohonot hwynt, y rhai a rannodd yr ARGLWYDD dy DDUW i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.

20Ond yr ARGLWYDD a’ch cymerodd chwi, ac a’ch dug chwi allan o’r pair haearn, o’r Aifft, i fod iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth; fel y gwelir y dydd hwn.

21A’r ARGLWYDD a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i’r wlad dda, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth.

22Oblegid byddaf farw yn y wlad hon; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd, ac a feddiennwch y wlad dda honno.

23Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a amododd efe â chwi, a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

24Oblegid yr ARGLWYDD dy DDUW sydd dân ysol, a DUW eiddigus.

25Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir drigo ohonoch yn y wlad, ac ymlygru ohonoch, a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD dy DDUW i’w ddigio ef;

26Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynnwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.

27A’r ARGLWYDD a’ch gwasgara chwi ymhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ymysg y cenhedloedd, y rhai y dwg yr ARGLWYDD chwi atynt:

28Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwytânt, ac nid aroglant.

29Os oddi yno y ceisi yr ARGLWYDD dy DDUW, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid.

30Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diwethaf, os dychweli at yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef:

31(Oherwydd yr ARGLWYDD dy DDUW sydd DDUW trugarog;) ni edy efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid anghofia gyfamod dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt.

32Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o’th flaen di, o’r dydd y creodd DUW ddyn ar y ddaear, ac o’r naill gwr i’r nefoedd hyd y cwr arall i’r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef:

33A glybu pobl lais DUW yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw?

34A brofodd un DUW ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich DUW eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid?

35Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr ARGLWYDD sydd DDUW, nad oes neb arall ond efe.

36O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i’th hyfforddi di; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef.

37Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl; ac a’th ddug di o’i flaen, â’i fawr allu, allan o’r Aifft:

38I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o’th flaen di, i’th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth, fel heddiw.

39Gwybydd gan hynny heddiw, ac ystyria yn dy galon, mai yr ARGLWYDD sydd DDUW yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaear oddi tanodd; ac nid neb arall.

40Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti byth.

41Yna Moses a neilltuodd dair dinas o’r tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul;

42I gael o’r llofrudd ffoi yno, yr hwn a laddai ei gymydog yn amryfus, ac efe heb ei gasáu o’r blaen; fel y gallai ffoi i un o’r dinasoedd hynny, a byw:

43Sef Beser yn yr anialwch, yng ngwastatir y Reubeniaid; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid; a Golan o fewn Basan y Manassiaid.

44A dyma’r gyfraith o osododd Moses o flaen meibion Israel;

45Dyma ’r tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth feibion Israel, gwedi eu dyfod allan o’r Aifft:

46Tu yma i’r Iorddonen, yn y dyffryn ar gyfer Beth-peor, yng ngwlad Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yr hwn a drawsai Moses a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o’r Aifft:

47Ac a berchenogasant ei wlad ef, a gwlad Og brenin Basan, dau o frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul;

48O Aroer, yr hon oedd ar lan afon Arnon, hyd fynydd Seion, hwn yw Hermon;

49A’r holl ros tu hwnt i’r Iorddonen tua’r dwyrain, a hyd at fôr y rhos, dan Asdoth-pisga.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help