Josua 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Phan glybu Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnaethai efe i Jericho ac i’w brenin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenin,) a heddychu o drigolion Gibeon ag Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt:

2Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr oedd Gibeon, fel un o’r dinasoedd brenhinol; ac oherwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn.

3Am hynny Adonisedec brenin Jerwsalem a anfonodd at Hoham brenin Hebron, ac at Piram brenin Jarmuth, ac at Jaffia brenin Lachis, ac at Debir brenin Eglon, gan ddywedyd.

4Deuwch i fyny ataf fi, a chynorthwywch fi, fel y trawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.

5Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynullasant, ac a ddaethant i fyny, sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon, hwynt-hwy a’u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.

6A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyred i fyny yn fuan atom ni, achub ni hefyd, a chynorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd-dir, a ymgynullasant i’n herbyn ni.

7Felly Josua a esgynnodd o Gilgal, efe a’r holl bobl o ryfel gydag ef, a’r holl gedyrn nerthol.

8A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb ohonynt yn dy wyneb di.

9Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal.

10A’r ARGLWYDD a’u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac a’u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fyny i Beth-horon, ac a’u trawodd hwynt hyd Aseca, ac hyd Macceda.

11A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy yng ngoriwaered Beth-horon, yr ARGLWYDD a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o’r nefoedd hyd Aseca; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na’r rhai a laddodd meibion Israel â’r cleddyf.

12Llefarodd Josua wrth yr ARGLWYDD y dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.

13A’r haul a arhosodd, a’r lleuad a safodd, nes i’r genedl ddial ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.

14Ac ni bu y fath ddiwrnod â hwnnw o’i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawai yr ARGLWYDD ar lef dyn: canys yr ARGLWYDD a ymladdodd dros Israel.

15A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i’r gwersyll i Gilgal.

16Ond y pum brenin hynny a ffoesant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda.

17A mynegwyd i Josua, gan ddywedyd, Y pum brenin a gafwyd ynghudd mewn ogof ym Macceda.

18A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt:

19Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ôl eich gelynion, a threwch y rhai olaf ohonynt; na adewch iddynt fyned i’w dinasoedd: canys yr ARGLWYDD eich DUW a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.

20A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i’r dinasoedd caerog.

21A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch, heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.

22A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o’r ogof.

23A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o’r ogof; sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon.

24A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gydag ef, Nesewch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.

25A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr ARGLWYDD i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn.

26Ac wedi hyn Josua a’u trawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bum pren: a buant ynghrog ar y prennau hyd yr hwyr.

27Ac ym mhryd machludo haul, y gorchmynnodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion yng ngenau yr ogof, y rhai sydd yno hyd gorff y dydd hwn.

28Josua hefyd a enillodd Macceda y dwthwn hwnnw, ac a’i trawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenin hi, hwynt-hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenin Macceda, fel y gwnaethai i frenin Jericho.

29Yna yr aeth Josua a holl Israel gydag ef o Macceda i Libna, ac a ymladdodd yn erbyn Libna.

30A’r ARGLWYDD a’i rhoddodd hithau, a’i brenin, yn llaw Israel; ac yntau a’i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a’r oedd ynddi; ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i’w brenin hi fel y gwnaethai i frenin Jericho.

31A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Libna i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i’w herbyn.

32A’r ARGLWYDD a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a’i henillodd hi yr ail ddydd, ac a’i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag oedd ynddi, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Libna.

33Yna Horam brenin Geser a ddaeth i fyny i gynorthwyo Lachis: a Josua a’i trawodd ef a’i bobl, fel na adawyd iddo ef un yng ngweddill.

34A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Lachis i Eglon: a hwy a wersyllasant wrthi, ac a ymladdasant i’w herbyn.

35A hwy a’i henillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a’i trawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a’r oedd ynddi y dwthwn hwnnw, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.

36A Josua a esgynnodd, a holl Israel gydag ef, o Eglon i Hebron; a hwy a ryfelasant i’w herbyn.

37A hwy a’i henillasant hi, ac a’i trawsant hi â min y cleddyf, a’i brenin, a’i holl ddinasoedd, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon: canys efe a’i difrododd hi, a phob enaid ag oedd ynddi.

38A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i Debir; ac a ymladdodd i’w herbyn.

39Ac efe a’i henillodd hi, ei brenin, a’i holl ddinasoedd; a hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i’w brenin; megis y gwnaethai efe i Libna, ac i’w brenin.

40Felly y trawodd Josua yr holl fynydd-dir, a’r deau, y gwastadedd hefyd, a’r bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un yng ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchmynasai ARGLWYDD DDUW Israel.

41A Josua a’u trawodd hwynt o Cades-barnea, hyd Gasa, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon.

42Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a enillodd Josua ar unwaith: canys ARGLWYDD DDUW Israel oedd yn ymladd dros Israel.

43Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gydag ef, i’r gwersyll yn Gilgal.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help