Doethineb Solomon 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 11

1Hl a gyfarwyddodd eu gweithredoedd hwynt yn llaw y proffwyd sanctaidd.

2Hwy a ymdeithiasant trwy’r diffeithwch anghyfanheddol, ac a osodasant eu pebyll mewn lleoedd anhyffordd.

3Hwy a safasant yn erbyn y rhai a ryfelent i’w herbyn, ac a ddialasant ar eu gelynion.

4Daeth syched arnynt, a hwy a alwasant arnat ti, ac fe a roddwyd iddynt ddwfr o’r graig serth, a meddyginiaeth rhag syched o’r maen caled.

5Canys trwy’r pethau y cystuddiwyd eu gelynion hwynt, trwy’r un pethau y cawsant hwy les, pan oedd eisiau arnynt.

6Yn lle ffynnon o afon redegog, wedi ei chythryblu â gwaed llychlyd,

7Yn gerydd am y gorchymyn i ladd y plant, y rhoddaist ti iddynt hwy amlder o ddwfr trwy fodd heb ei obeithio;

8Gan ddangos trwy’r syched oedd yr amser hwnnw, pa fodd y cystuddiesit ti y gwrthwynebwyr.

9Oblegid pan demtiwyd hwy, er eu ceryddu yn drugarog, hwy a wybuant pa fodd y dialeddwyd ar y rhai annuwiol, y rhai a farnwyd mewn digofaint.

10Canys y rhai hyn a brofaist ti fel tad, gan eu rhybuddio; a’r lleill a holaist ti fel brenin tost, gan eu condemnio:

11Y rhai, pa un bynnag ai yn absennol, ai yn bresennol, a gystuddiwyd yr un modd.

12Oblegid tristwch a gofid dauddyblyg a ddaeth arnynt hwy, wrth gofio pethau a aethai heibio.

13Canys pan glywsant hwy wrth eu cystudd eu hun, gael ohonynt fudd, hwy a feddyliasant am yr Arglwydd.

14Oblegid yr hwn a wrthodasent hwy yn watwarus, wedi ei fwrw allan gynt wrth daflu allan y plant newydd-eni, hwnnw a fu ryfedd ganddynt hwy yn niwedd y pethau a ddigwyddasant, gan fod arnynt syched amgen nag ar y rhai cyfiawn.

15Am anneallgar ddychmygion eu hanghyfiawnder hwynt, trwy y rhai wedi eu twyllo yr addolasant ymlusgiaid anrhesymol a bwystfilod gwael, yr anfonaist lawer o anifeiliaid heb reswm i ddial arnynt hwy;

16Fel y gallent hwy wybod mai trwy’r pethau y pecha neb, trwy’r un pethau hefyd y cosbir ef.

17Oblegid ni rwystrwyd dy law di, yr hon sydd hollalluog, ac a wnaeth y byd o afluniaidd ddefnydd, fel na allasai anfon arnynt hwy lawer o eirth a llewod hy,

18Neu anifeiliaid dieithr llawn o ddig, wedi eu newydd greu, yn anadlu tarth tanllyd, neu dwrf mwg, yr hwn a dry y gwynt neu wreichion aruthrol o’u llygaid fel mellt;

19Y rhai ni allai eu niwed hwynt yn unig eu dinistrio hwy, eithr eu golwg erchyll hwynt hefyd eu difetha hwy ar unwaith.

20Heb y rhai hyn hefyd trwy un awel y gallasent hwy syrthio, wrth gael eu hymlid gan ddialedd, a’u gwasgaru trwy ysbryd dy nerth di: eithr tydi a drefnaist bob peth wrth fesur, a rhif, a phwys.

21Canys bob amser yr ydwyt ti yn gallu llawer; a phwy a wrthwyneba nerth dy fraich di?

22Oblegid megis tipyn allan o gloriannau yw’r holl fyd yn dy olwg di, ac megis defnyn o wlith y bore, yr hwn a ddisgyn ar y ddaear.

23Ond yr ydwyt ti yn trugarhau wrth bob peth: oblegid ti a elli bob dim; ac yr ydwyt heb gymryd arnat weled pechodau dynion, fel yr edifarhaent hwy.

24Y mae yn hoff gennyt ti bob peth a’r y sydd, ac nid ffiaidd gennyt ddim a’r a wnaethost: ie, ni wnaethit ti ddim pe buasai gas gennyt ef.

25A pha fodd y parhasai dim, oni buasai dy ewyllys di? neu y cadwesid, heb ei alw gennyt ti?

26Ond yr ydwyt ti yn arbed pob peth: oblegid yr eiddot ti ydynt hwy, O Arglwydd, yr hwn sydd yn caru eneidiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help