1Ofer a chelwyddog obaith fydd gan ŵr ansynhwyrol; a breuddwydion a falchïa y rhai angall.
2Megis un yn rhoi cais ar gysgod, ac yn ymlid gwynt, yw’r hwn a goelio i freuddwydion.
3Gweledigaeth breuddwydion sy gyffelybiaeth o’r naill beth i’r llall, megis cyffelybrwydd wyneb i wyneb.
4Pa lendid a geir o’r aflan? a pha wirionedd o’r celwyddog?
5Ofer yw dewiniaeth, coelion, a breuddwydion; a’r galon sydd yn ffansïo fel calon gwraig yn esgor.
6Oddieithr i’r Goruchaf eu danfon hwynt yn dy ymweliad di, na ddod dy galon arnynt.
7Breuddwydion a dwyllasant lawer; a’r rhai a obeithiasant ynddynt hwy a fethasant.
8Heb gelwydd y perffeithir y gyfraith; a pherffeithrwydd i enau ffyddlon yw doethineb.
9Y gŵr a gerddodd lawer, a ŵyr lawer: a’r hwn a gafodd brawf o lawer o bethau, a ddengys synnwyr.
10Ychydig a ŵyr yr hwn ni phrofwyd: a’r hwn a gerddodd lawer sy’n llawn o synnwyr.
11Mi a welais lawer yn fy ngherdded; ac yr wyf yn deall mwy nag a fedraf ei adrodd.
12Mi a fûm yn fynych mewn perygl marwolaeth; eto mi a achubwyd trwy ras Duw.
13Ysbryd y rhai a ofnant yr Arglwydd a gaiff fyw: oblegid y mae eu gobaith hwy ar eu Hachubwr.
14Yr hwn sydd yn ofni’r Arglwydd nid ofna ddim, ac ni ddychryna; oblegid efe yw ei obaith ef.
15Gwyn ei fyd enaid y neb a ofno’r Arglwydd: at bwy y mae efe yn edrych? a phwy yw ei gadernid ef?
16Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai a’i carant ef, yn amddiffynfa nerthol, ac yn gadernid cryf, yn gysgod rhag gwres, ac yn gysgod rhag yr haul hanner dydd, ac yn geidwad rhag tramgwyddo, ac yn help rhag syrthio,
17Yn dyrchafu’r enaid, ac yn llewyrchu’r llygaid, ac yn rhoddi iechyd, a bywyd, a bendith.
18Gwawd yw offrwm yr hwn a abertho o dda anghyfiawn: ni byddir bodlon i roddion y rhai anwir.
19Nid yw y Goruchaf fodlon i offrymau yr annuwiol; ac nid trwy lawer o aberthau y bodlonir ef am bechod.
20Megis un yn lladd y mab o flaen llygaid y tad, yw’r hwn a offrymo aberth o dda y tlodion.
21Bywyd y tlodion anghenus yw bara; a dyn gwaedlyd yw yr hwn a’i dygo oddi arno.
22Lladd ei gymydog y mae yr hwn a dwyllo y gwas cyflog am ei gyflog.
23Pan fyddo un yn adeiladu, ac arall yn tynnu i lawr, pa fudd a gânt hwy ond poen?
24Pan fyddo un yn gweddïo, ac arall yn melltithio, lleferydd pa un a wrendy’r Arglwydd?
25Y neb a ymolcho, wedi cyffwrdd â’r marw, ac a gyffyrddo ag ef eilwaith, pa fudd a gaiff efe o’i ymolchiad?
26Felly y dyn a ymprydio oblegid ei bechodau, ac a â drachefn, ac a wna yr un pethau; pwy a wrendy ar ei weddi ef? a pha fudd fydd iddo ef am ymddarostwng?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
