Tobit 12 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 12

1Yna y galwodd Tobit ei fab Tobeias, ac y dywedodd wrtho, Edrych, fy mab, am ei gyflog i’r gŵr a aeth gyda thi: a rhaid ydyw ei chwanegu.

2A Thobeias a ddywedodd wrtho, Fy nhad, nid colled gennyf roi iddo ef hanner yr hyn a ddugum gyda mi:

3Oherwydd efe a’m dug i adref i ti drachefn yn iach, ac a iachaodd fy ngwraig, ac a gyrchodd yr arian, ac a’th iachaodd dithau hefyd.

4A’r hynafgwr a ddywedodd, Mae yn gyfiawn iddo eu cael.

5Yna y galwodd efe yr angel, ac a ddywedodd wrtho, Cymer hanner yr hyn oll a ddygasoch, a dos yn iach.

6Eithr efe wedi eu galw hwy ill dau o’r neilltu, a ddywedodd wrthynt, Diolchwch i Dduw, a moliennwch ef, a rhoddwch iddo ef fawr ogoniant; cyffeswch ef yng ngŵydd pawb o’r rhai byw, am y pethau a wnaeth efe i chwi. Peth daionus yw diolch i’r Arglwydd, a mawrhau ei enw ef, gan adrodd gweithredoedd Duw yn barchedig: ac na ddiogwch yn ei foliannu ef.

7Cyfrinach y brenin sydd weddus ei chelu: ond gweithredoedd Duw sy ogoneddus eu cyhoeddi. Gwnewch ddaioni, ac ni’ch goddiwedd drwg.

8Daionus yw gweddi gydag ympryd, elusenni, a chyfiawnder. Gwell yw ychydig gyda chyfiawnder, na llawer gydag anghyfiawnder. Gwell yw rhoi elusennau na phentyrru aur:

9Canys elusenni a wared rhag angau, ac a lanha bob pechod: y rhai a wnêl elusen a chyfiawnder, a gyflawnir â bywyd:

10Eithr pechaduriaid sy elynion i’w bywyd eu hunain.

11Ni chuddiaf ddim rhagoch. Mi a ddywedais mai da yw cadw cyfrinach brenin, a gogoneddus dangos gweithredoedd Duw ar gyhoedd.

12Ac yr awron pan weddïaist ti a’th waudd Sara, myfi a ddugum gof am eich gweddïau gerbron y Sanctaidd. A phan oeddit yn claddu’r meirw, yr oeddwn i gyda thi hefyd.

13A phan nad oedaist godi a gadael dy ginio, i fyned i gladdu’r dyn marw, nid oedd dy weithred dda yn guddiedig rhagof: eithr yr oeddwn gyda thi.

14Ac yr awron Duw a’m danfonodd i i’th iacháu di a’th waudd Sara.

15Myfi yw Raffael, un o’r saith angel sanctaidd, y rhai sy’n dwyn i fyny weddïau’r rhai sanctaidd, ac sydd yn tramwy gerbron gogoniant yr hwn sydd Sanctaidd.

16Yna y dychrynasant ill dau, a hwy a syrthiasant ar eu hwynebau: oblegid hwy a ofnasent.

17Yna y dywedodd efe wrthynt, Nac ofnwch; canys bydd tangnefedd i chwi: eithr rhoddwch ddiolch i Dduw.

18Canys nid o’m caredigrwydd fy hun, eithr trwy ewyllys ein Duw ni, y deuthum: am hynny rhoddwch ddiolch iddo ef yn dragywydd.

19Beunydd yr ymddangosais i chwi: eithr nid oeddwn yn bwyta nac yn yfed; namyn chwi a welech weledigaeth.

20Ac yr awron moliennwch Dduw; canys mi a esgynnaf at yr hwn a’m danfonodd: eithr ysgrifennwch yr hyn oll a wnaethpwyd mewn llyfr.

21Yna y codasant i fyny, ac ni welsant ef mwy.

22A chyffesu rhyfeddfawr weithredoedd Duw a wnaethant, a’r modd yr ymddangosasai angel yr Arglwydd iddynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help