Barnwyr 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddanodd â hwynt, ac â holl dylwyth tŷ tad ei fam, gan ddywedyd,

2Dywedwch, atolwg, lle y clywo holl wŷr Sichem, Pa un orau i chwi, ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain, sef holl feibion Jerwbbaal, ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a’ch cnawd chwi ydwyf fi.

3A brodyr ei fam a ddywedasant amdano ef, lle y clybu holl wŷr Sichem, yr holl eiriau hyn: a’u calonnau hwynt a drodd ar ôl Abimelech; canys dywedasant, Ein brawd ni yw efe.

4A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dŷ Baal-berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal, y rhai a aethant ar ei ôl ef.

5Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i Offra, ac a laddodd ei frodyr, meibion Jerwbbaal, y rhai oedd ddengwr a thrigain, ar un garreg: ond Jotham, mab ieuangaf Jerwbbaal, a adawyd; canys efe a ymguddiasai.

6A holl wŷr Sichem a holl dŷ Milo a ymgasglasant, ac a aethant, ac a urddasant Abimelech yn frenin, wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem.

7A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo DUW arnoch chwithau.

8Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt; a dywedasant wrth yr olewydden, Teyrnasa arnom ni.

9Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â’m braster, â’r hwn trwof fi yr anrhydeddant DDUW a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?

10A’r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.

11Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â’m melystra, ac â’m ffrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill?

12Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden, Tyred di, teyrnasa arnom ni.

13A’r winwydden a ddywedodd wrthynt hwy, A ymadawaf fi â’m melyswin, yr hwn sydd yn llawenhau DUW a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?

14Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.

15A’r fiaren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr eneiniwch fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid e, eled tân allan o’r fiaren, ac ysed gedrwydd Libanus.

16Yn awr gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch, yn gosod Abimelech yn frenin, ac os gwnaethoch yn dda â Jerwbbaal, ac â’i dŷ, ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylo y gwnaethoch iddo:

17(Canys fy nhad a ymladdodd drosoch chwi, ac a anturiodd ei einioes ymhell, ac a’ch gwaredodd chwi o law Midian:

18A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhad i heddiw, ac a laddasoch ei feibion ef, sef dengwr a thrigain, ar un garreg, ac a osodasoch Abimelech, mab ei lawforwyn ef, yn frenin ar wŷr Sichem, oherwydd ei fod ef yn frawd i chwi:)

19Gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch â Jerwbbaal, ac â’i dŷ ef, y dydd hwn; llawenychwch yn Abimelech, a llawenyched yntau ynoch chwithau:

20Ac onid e, eled tân allan o Abimelech, ac ysed wŷr Sichem, a thŷ Milo; hefyd eled tân allan o wŷr Sichem, ac o dŷ Milo, ac ysed Abimelech.

21A Jotham a giliodd, ac a ffodd, ac a aeth ymaith i Beer, ac a drigodd yno, rhag ofn Abimelech ei frawd.

22Ac Abimelech a deyrnasodd ar Israel dair blynedd.

23A DUW a ddanfonodd ysbryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem; a gwŷr Sichem a aethant yn anghywir i Abimelech:

24Fel y delai y traha a wnaethid â deng mab a thrigain Jerwbbaal, ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd, yr hwn a’u lladdodd hwynt; ac ar wŷr Sichem, y rhai a’i cynorthwyasant ef i ladd ei frodyr.

25A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gynllwynwyr ar ben y mynyddoedd; a hwy a ysbeiliasant bawb a’r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd. A mynegwyd hynny i Abimelech.

26A Gaal mab Ebed a ddaeth, efe a’i frodyr, ac a aethant drosodd i Sichem: a gwŷr Sichem a roesant eu hyder arno.

27A hwy a aethant i’r meysydd, ac a gasglasant eu gwinllannoedd, ac a sangasant eu grawnwin, ac a wnaethant yn llawen, ac a aethant i mewn i dŷ eu duw, ac a fwytasant ac a yfasant, ac a felltithiasant Abimelech.

28A Gaal mab Ebed a ddywedodd, Pwy yw Abimelech, a phwy yw Sichem, fel y gwasanaethem ef? onid mab Jerwbbaal yw efe? onid Sebul yw ei swyddog? gwasanaethwch wŷr Hemor tad Sichem: canys paham y gwasanaethem ni ef?

29O na byddai y bobl hyn dan fy llaw i, fel y bwriwn ymaith Abimelech! Ac efe a ddywedodd wrth Abimelech, Amlha dy lu, a thyred allan.

30A phan glybu Sebul, llywodraethwr y ddinas, eiriau Gaal mab Ebed, y llidiodd ei ddicllonedd ef.

31Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele Gaal mab Ebed a’i frodyr wedi dyfod i Sichem; ac wele hwynt yn cadarnhau y ddinas i’th erbyn.

32Gan hynny cyfod yn awr liw nos, ti a’r bobl sydd gyda thi, a chynllwyn yn y maes:

33A chyfod yn fore ar godiad yr haul, a rhuthra yn erbyn y ddinas: ac wele, pan ddelo efe a’r bobl sydd gydag ef allan i’th erbyn, yna gwna iddo yr hyn a ellych.

34Ac Abimelech a gyfododd, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, liw nos, ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn bedair byddin.

35A Gaal mab Ebed a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws porth y ddinas: ac Abimelech a gyfododd, a’r bobl y rhai oedd gydag ef, o’r cynllwyn.

36A phan welodd Gaal y bobl, efe a ddywedodd wrth Sebul, Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd. A dywedodd Sebul wrtho, Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion.

37A Gaal a chwanegodd eto lefaru, ac a ddywedodd, Wele bobl yn dyfod i waered o ganol y tir, a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenim.

38Yna y dywedodd Sebul wrtho ef, Pa le yn awr y mae dy enau di, â’r hwn y dywedaist, Pwy yw Abimelech, pan wasanaethem ef? onid dyma’r bobl a ddirmygaist ti? dos allan, atolwg, yn awr, ac ymladd i’w herbyn.

39A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem, ac a ymladdodd ag Abimelech.

40Ac Abimelech a’i herlidiodd ef, ac efe a ffodd o’i flaen ef; a llawer a gwympasant yn archolledig hyd ddrws y porth.

41Ac Abimelech a drigodd yn Aruma: a Sebul a yrrodd ymaith Gaal a’i frodyr o breswylio yn Sichem.

42A thrannoeth y daeth y bobl allan i’r maes: a mynegwyd hynny i Abimelech.

43Ac efe a gymerth y bobl, ac a’u rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dyfod allan o’r ddinas; ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a’u trawodd hwynt.

44Ac Abimelech, a’r fyddin oedd gydag ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a’r ddwy fyddin eraill a ruthrasant ar yr holl rai oedd yn y maes, ac a’u trawsant hwy.

45Ac Abimelech a ymladdodd yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw: ac efe a enillodd y ddinas, ac a laddodd y bobl oedd ynddi, ac a ddistrywiodd y ddinas, ac a’i heuodd â halen.

46A phan glybu holl wŷr tŵr Sichem hynny, hwy a aethant i amddiffynfa tŷ duw Berith.

47A mynegwyd i Abimelech, ymgasglu o holl wŷr tŵr Sichem.

48Ac Abimelech a aeth i fyny i fynydd Salmon, efe a’r holl bobl oedd gydag ef: ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o’r coed, ac a’i cymerth hi, ac a’i gosododd ar ei ysgwydd; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau.

49A’r holl bobl a dorasant bob un ei gangen, ac a aethant ar ôl Abimelech; ac a’u gosodasant wrth yr amddiffynfa, ac a losgasant â hwynt yr amddiffynfa â thân: felly holl wŷr tŵr Sichem a fuant feirw, ynghylch mil o wŷr a gwragedd.

50Yna Abimelech a aeth i Thebes; ac a wersyllodd yn erbyn Thebes, ac a’i henillodd hi.

51Ac yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y ddinas; a’r holl wŷr a’r gwragedd, a’r holl rai o’r ddinas, a ffoesant yno, ac a gaeasant arnynt, ac a ddringasant ar nen y tŵr.

52Ac Abimelech a ddaeth at y tŵr, ac a ymladdodd yn ei erbyn; ac a nesaodd at ddrws y tŵr, i’w losgi ef â thân.

53A rhyw wraig a daflodd ddarn o faen melin ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei benglog ef.

54Yna efe a alwodd yn fuan ar y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, Tyn dy gleddyf, a lladd fi; fel na ddywedant amdanaf, Gwraig a’i lladdodd ef. A’i lanc a’i trywanodd ef, ac efe a fu farw.

55A phan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech, hwy a aethant bob un i’w fangre.

56Felly y talodd DUW ddrygioni Abimelech, yr hwn a wnaethai efe i’w dad, gan ladd ei ddeg brawd a thrigain.

57A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd DUW ar eu pen hwynt: a melltith Jotham mab Jerwbaal a ddaeth arnynt hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help