1Dyma hefyd eiriau’r llyfr a sgrifennodd Baruch mab Nereias, fab Maaseias, fab Sedeceias, fab Asadeias, fab Chelcias, yn Babilon,
2Yn y bumed flwyddyn, ar y seithfed dydd o’r mis, yr amser yr enillodd y Caldeaid Jerwsalem, ac y llosgasant hi â thân.
3A Baruch a ddarllenodd eiriau’r llyfr hwn lle y clywai Jechoneias mab Joachim brenhin Jwda, a lle y clywai’r holl bobl, y rhai a ddaethai i wrando’r llyfr,
4A lle y clywai’r holl gedyrn, a holl feibion y brenin, a lle y clywai’r henuriaid, a lle y clywai’r holl bobl, o’r lleiaf hyd y mwyaf, y rhai oll oedd yn trigo yn Babilon, wrth afon Sud.
5A hwy a wylasant, ac a ymprydiasant, ac a weddiasant, gerbron yr Arglwydd.
6Hwy a gasglasant arian hefyd yn ôl gallu pawb,
7Ac a’i hanfonasant i Jerwsalem at Joachim yr offeiriad fab Chelcias, fab Salom, ac at yr holl offeiriaid eraill, ac at yr holl bobl a geffid gyda hwynt yn Jerwsalem,
8Y pryd hynny pan dderbyniodd efe lestri tŷ’r Arglwydd, y rhai a ddygasid o’r deml, i’w dwyn drachefn i wlad Jwda, y degfed dydd o fis Sifan, sef llestri arian, y rhai a wnaethai Sedeceias mab Joseias brenin Jwda;
9Wedi caethgludo o Nabuchodonosor brenin Babilon Jechoneias, a’r tywysogion, a’r carcharorion, a’r cedyrn, a phobl y wlad, o Jerwsalem, a’u dwyn hwynt i Babilon.
10A hwy a ddywedasant, Wele, ni a anfonasom atoch chwi arian; prynwch chwithau â’r arian offrymau poeth, ac aberthau dros bechod, ac arogldarth; a darperwch fwyd-offrwm, ac offrymwch ar allor yr Arglwydd ein Duw ni;
11A gweddïwch dros hoedl Nabuchodonosor brenin Babilon, a thros hoedl Balthasar ei fab ef, ar fod eu dyddiau hwynt ar y ddaear fel dyddiau’r nefoedd;
12Ac ar roddi o’r Arglwydd i ni nerth, a goleuo ohono ef ein llygaid ni, fel y byddom byw dan gysgod Nabuchodonosor brenin Babilon, a than gysgod Balthasar ei fab ef, ac y gwasanaethom hwy lawer o ddyddiau, ac y caffom ffafr yn eu golwg hwynt.
13Gweddïwch hefyd drosom ni at yr Arglwydd ein Duw: oherwydd ni a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw, ac ni throd ei lid a’i ddig ef oddi wrthym ni eto.
14Darllenwch hefyd y llyfr yma a anfonasom ni atoch, i’w draethu yn nhŷ’r Arglwydd ar ddyddiau gwylion ac ar ddyddiau uchel;
15A dywedwch, Yr Arglwydd ein Duw ni sydd gyfiawn, i ninnau y perthyn gwarthrudd golau, fel y mae heddiw, i ddynion Jwda, ac i drigolion, Jerwsalem,
16Ac i’n brenhinoedd, ac i’n tywysogion, ac i’n hoffeiriaid, ac i’n proffwydi, ac i’n tadau:
17Canys ni a bechasom gerbron yr Arglwydd ein Duw,
18Ac a anghredasom iddo ef, ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei orchmynion ef, y rhai a roddes efe o’n blaen ni.
19Er y dydd y dug yr Arglwydd ein tadau o dir yr Aifft hyd y dydd hwn, ni a fuom anufudd i’r Arglwydd ein Duw, ac a fuom esgeulus, heb wrando ar ei lais ef.
20Am hynny y glynodd drwg wrthym ni, a’r felltith a ordeiniodd yr Arglwydd wrth Moses ei was, y dydd y dug yr Arglwydd ein tadau allan o dir yr Aifft, i roddi i ni dir yn llifeirio o laeth a mêl, fel y gwelir heddiw.
21Ond ni wrandawsom ni ar lais yr Arglwydd ein Duw, yn ôl holl eiriau’r proffwydi a anfonodd efe atom:
22Eithr ni a rodiasom bob un wrth feddwl ei galon ddrygionus ei hun, gan wasanaethu duwiau dieithr, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd ein Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.