1A gair yr ARGLWYDD a ddaeth yr ail waith at Jona, gan ddywedyd,
2Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt.
3A Jona a gyfododd ac a aeth i Ninefe, yn ôl gair yr ARGLWYDD. A Ninefe oedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod.
4A Jona a ddechreuodd fyned i’r ddinas daith un diwrnod, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Deugain niwrnod fydd eto, a Ninefe a gwympir.
5A gwŷr Ninefe a gredasant i DDUW, ac a gyhoeddasant ympryd, ac a wisgasant sachliain, o’r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt.
6Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe, ac efe a gyfododd o’i frenhinfainc, ac a ddiosgodd oddi amdano ei frenhinwisg, ac a roddes amdano liain sach, ac a eisteddodd mewn lludw.
7Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefe, trwy orchymyn y brenin a’i bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim; na phorant, ac nac yfant ddwfr.
8Gwisger dyn ac anifail â sachlen, a galwant ar DDUW yn lew: ie, dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y trawster sydd yn eu dwylo.
9Pwy a ŵyr a dry DUW ac edifarhau, a throi oddi wrth angerdd ei ddig, fel na ddifether ni?
10A gwelodd DUW eu gweithredoedd hwynt, droi ohonynt o’u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd DUW am y drwg a ddywedasai y gwnâi iddynt, ac nis gwnaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
