1Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul.
2Fel blodeuyn y daw allan, ac y torrir ef ymaith; ac efe â gilia fel cysgod, ac ni saif.
3A agori di dy lygaid ar y fath yma? ac a ddygi di fi i farn gyda thi?
4Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? neb.
5Gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu, rhifedi ei fisoedd ef gyda thi, a gosod ohonot ei derfynau, fel nad êl drostynt:
6Tro oddi wrtho, fel y gorffwyso, hyd oni orffenno, fel gwas cyflog, ei ddiwrnod.
7Canys y mae gobaith o bren, er ei dorri, y blagura efe eto, ac na phaid ei flagur ef â thyfu.
8Er heneiddio ei wreiddyn ef yn y ddaear, a marweiddio ei foncyff ef yn y pridd;
9Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd, ac a fwrw ganghennau fel planhigyn.
10Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae?
11Fel y mae dyfroedd yn pallu o’r môr, a’r afon yn myned yn ddihysbydd, ac yn sychu:
12Felly gŵr a orwedd, ac ni chyfyd hyd oni byddo heb nefoedd; ni ddihunant, ac ni ddeffroant o’u cwsg.
13O na chuddit fi yn y bedd! na’m cedwit yn ddirgel, nes troi dy lid ymaith! na osodit amser nodedig i mi, a’m cofio!
14Os bydd gŵr marw, a fydd efe byw drachefn? disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad.
15Gelwi, a myfi a’th atebaf; chwenychi waith dy ddwylo.
16Canys yr awr hon y rhifi fy nghamre: onid wyt yn gwylied ar fy mhechod?
17Fy nghamwedd a selied mewn cod; a thi a wnïaist i fyny fy anwiredd.
18Ac yn wir, y mynydd a syrthio a ddiflanna; a’r graig a symudir o’i lle.
19Dyfroedd a dreuliant y cerrig; yr wyt yn golchi ymaith y pethau sydd yn tyfu o bridd y ddaear, ac yn gwneuthur i obaith dyn golli.
20Yr wyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd, fel yr elo ymaith: a chan newidio ei wyneb ef, yr wyt yn ei ddanfon ef i ffordd.
21Ei feibion ef a ddaw i anrhydedd, ac nis gwybydd efe: a hwy a ostyngir, ac ni ŵyr efe oddi wrthynt:
22Ond ei gnawd arno a ddoluria, a’i enaid ynddo a alara.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
